Archifau Categori: Heb Gategori

Perfformiad Mwnci ar Dân

5 Hydref, Pafiliwn y Grand Porthcawl, 1yp

Mae perfformiad Mwnci ar Dân wedi cael ei drefnu gan Menter Bro Ogwr ym Mhafiliwn Porthcawl ar y 5ed o Hydref 2015 am 1yp, gyda 20 munud o drafodaeth anffurfiol ar ôl y perfformiad.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, yna mae’n rhaid i chi archebu tocynnau erbyn 30 Medi drwy ffonio swyddfa Menter Bro Ogwr: 01656 732200.

MWNCI AR DÂN

Drama pwerus yw Mwnci ar Dân gan Sera Moore Williams, sy’n tynnu sylw at faterion sy’n bwysig i arddegwyr – rhyfel, trais, teuluoedd sydd wedi gwahanu a chyfrifoldebau.

Mae cymeriad Hen yn cael ei blagio gan ei atgofion o’i gyfnod fel milwr. Mae Mwnci yn edrych ‘mlaen i gael dianc o ddiflastod ei fywyd ac ymuno a’r fyddin. Mae Shell yn bymtheg, mewn cariad llwyr â Mwnci, ac yn feichiog gyda ei blentyn.

Fe fydd arddull y ddrama yn foel ac yn uniongyrchol, gyda hiwmor yn chwarae rhan fawr, fel ag yw’r arfer erbyn hyn yng ngwaith y cwmni ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Nodir bod y ddrama hon yn un o’r testunau ar gyfer TGAU Drama ac hefyd yn addas i waith ABCh.

POSTER_MWNCI_dim_logos2015

 

PATAGONIA 150: Te Cymreig

Te cymreig 2015

Dyddiad: 19.09.15

Lleoliad: The Pop Up Tea Room, Neuadd Blandy, Trelales

Amser: 3:00yp

Cost: £16

Dewch am de Cymreig traddodiadol yng nghwmni Elvira Moseley i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Ganwyd a magwyd Elvira ym Mhatagonia ond mae hi bellach yn byw ym Maglan. Roedd ei pherthnasau ymysg y cyntaf i hwylio i Batagonia ar y Mimosa. Dewch i glywed am ei hanes a’i phrofiadau tra’n llenwi eich boliau â theisenni blasus!

Rhaid bwcio erbyn dim hwyrach na:
04.09.15

Archebwch le nawr!
Ewch i Siop yr Hen Bont neu ffoniwch 01656 732200!

Cyri, Cwis a Chwrw!

Image-1

Cawson ni noson llawn hwyl a chyri blasus yn y Six Bells yng Nghoety ar y 3ydd o Orffennaf fel rhan o ŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr! Diolch yn fawr i bawb am ddod ac i Alun Guile ein Cwis Feistr am baratoi a rhedeg y cwis i ni. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm buddugol, y Twpsod Twp, am chwipio’r wobr!

Gŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr 2015

Mae Gŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr yn ôl eleni ac yn cynnig rhywbeth ar gyfer y teulu i gyd!

Mae chwech prif ddigwyddiad a bydd pethau eraill yn digwydd yn ystod yr wythnos.

Am y digwyddiadau a gwybodaeth diweddaraf, ewch ar ein gwefan, Facebook a Thrydar!

www.menterbroogwr.org | Facebook: @menterbroogwr | Twitter: @menterbroogwr

Poster Gŵyl MBO 2015