Dydd iau, 2il o Orffennaf, 9:30yb
Gweithdy Sgiliau Radio i ddisgyblion
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Gyda Marc Griffiths, BBC Radio Cymru!
Noson gymdeithasol yn nhafarn y Six Bells, Coety!
Nos Wener, 3ydd o Orffennaf 2015
7yh
Tocynnau: £6 (Mynediad a bwyd)
Nifer cyfyngedig o docynnau felly’r cyntaf i’r felin gaiff falu!
Peidiwch â chael eich siomi, archebwch eich lle nawr trwy fynd i Siop Yr Hen Bont neu cysylltwch â Menter Bro Ogwr
menter@broogwr.org
01656 732200
www.menterbroogwr.org
HYSBYSEB SWYDD
Cyflogwr: Menter Bro Ogwr
Cyflog: £16,000 – £20,000
Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad Cau: 19/06/2015
Termau’r Swydd: Tymor Penodol
Oriau: Llawn amser
Disgrifiad:
Mae Menter Bro Ogwr yn chwilio am Swyddog Ieuenctid i ddarparu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae hon yn swydd hollbwysig yn y Sir ac mae angen unigolyn hyderus, brwdfrydig ac awyddus i ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo, cydgysylltu a darparu rhaglenni gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc dros 11 oed.
Bydd eich cylch gwaith amrywiol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfleuster ‘galw i mewn’, cefnogaeth un i un a sesiynau gwaith grŵp gan ddatblygu a chefnogi’r rhaglenni sy’n bodoli’n barod gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr cymunedau’r fwrdeistref.
Byddai chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid yn ddelfrydol, ond ddim yn hanfodol. Bydd profiad o weithio gyda phobl ifanc yn fanteisiol i chi ddatblygu strategaethau ac i ddelio’n effeithiol gyda’u hanghenion a’u pryderon. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a phobl ifanc, cydweithwyr a’r gymuned, profiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol, ynghyd a thrwydded yrru gyfredol a defnydd o gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni profion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i wneud cais
• Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 19eg o Fehefin 2015 am 5yh.
Am fanylion pellach ynglŷn â’r swydd uchod, cysylltwch ag Amanda Evans ar 01656 732200 neu ebostiwch menter@broogwr.org
• Cyfeiriad y Cwmni:
Menter Bro Ogwr
Ty’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg, CF34 9YE
• Gwefan: Menter Bro Ogwr
Swper Haf
Bwydlen
Menu
Cwrs cyntaf
Starters
Cawl tomato a llysiau Mediteranaidd
Mediterranean tomato and vegetable soup
******
Paté
Paté
******
Madarch mewn garlleg
Garlic mushrooms
******
Coctel Melon
Melon Cocktail
Prif gwrs
Main Course
Cyw iâr wedi’i stwffio â paté a chaws a’i lapio mewn cig moch gyda saws Stilton
Chicken stuffed with paté and cheese and wrapped in bacon with Stilton sauce
******
Lwyn Porc Sbaenaidd gyda pherlysiau Sbaenaidd, chorizo, tatws a garlleg
Spanish style pork loin with spanish spices, chorizo, potatoes and garlic
******
Ffiled eog Cajun
Cajun salmon filet
******
Pupur Rhost wedi’i stwffio â courgettes gyda Crème fraîche a mintys
Roast stuffed peppers with courgettes, Crème fraîche and mint
Pwdin
Dessert
Dewis o bwdinau ar y noson
A selection of desserts on the night
2 gwrs/course – £11.95
3 chwrs/ course – £14.95