Archifau Categori: Ieuenctid

DYDD GŴYL DEWI HAPUS!

IMG_8796

Sut mae dathlu?  

Rhannwch eich lluniau gyda ni i ddangos pam ‘dych chi’n falch o fod yn Gymro!

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ‘dyn ni wedi trefnu her i chi!!

Yr her yw, i rannu llun neu fideo o rywbeth sy’n eich gwneud chi’n falch i fod yn Gymro, er mwyn dangos eich balchder yn ein hiaith, traddodiadau a bwydydd rhyfeddol a harddwch ein gwlad.

Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o ddiwrnod pwysig iawn i ni yng Nghymru sef Dydd Gŵyl Dewi.

Gall eich llun neu fideo gynnwys eich hoff le i fynd yng Nghymru, eich hoff fwyd Cymreig, neu hyd yn oed hunlun ohonoch chi’n gwisgo cennin Pedr neu genhinen.

Rhannwch eich lluniau ar ein tudalen Facebook a Twitter a dangoswch pam eich bod chi’n falch o fod yn Gymro, ar ddydd Gŵyl Dewi.

Galwch draw i’n gweld ni yng Ngholeg Pencoed a Phenybont!  

Bydd stondin gyda ni a’r Urdd yng Ngholeg Pencoed dydd Llun 29ain o Chwefror a stondin yng Ngholeg Penybont ar y 1af a’r 2il o Fawrth. Dewch draw i’n gweld ni!

Mae Menter Bro Ogwr yn gobeithio gweithio gyda chi’r myfyrwyr i sefydlu gweithgor neu gymdeithas. Pwrpas y gweithgor neu’r gymdeithas fydd trefnu gweithgareddau a digwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill a defnyddio eich Cymraeg yn y coleg. Bydd cyfle i lenwi ein holiadur a chyfle ennill gwobr pob dydd am wneud!

Dewch i weld Menter Bro Ogwr a Sam Tân yn Sainsbury’s a chystadlu yn y cystadleuaeth lliwio!

Mae Sainsbury’s yn rhedeg cystadleuaeth arbennig unwaith eto eleni – cystadleuaeth lliwio Dydd Gŵyl Dewi! Mae modd i chi gasglu’r tudalennau lliwio o Sainsbury’s, swyddogion y Fenter a Siop Yr Hen Bont. Bydd Sainsbury’s yn cynnig gwobr i’r enillydd.

Hwyl y Gwyliau Chwefror 2016

Cynllun Chwarae Maesteg 3

Bydd Hwyl y Gwyliau Cymraeg yn ystod Hanner Tymor Chwefror yn cael eu rhedeg gan Menter Bro Ogwr. Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio staff cymwysedig, profiadol a brwdfrydig a fydd yn trefnu rhaglen o weithgareddau cyffrous i fechgyn a merched 8 – 14 blwydd oed.

Bydd ein rhaglenni’n cynnwys gweithgareddau chwaraeon , megis pêl-droed, phêl-rwyd, pêl osgoi, rybgi cyffwrdd, a llawer mwy. Hefyd, mae gennym amrywiaeth o weithgareddau gwahanol ar gael ym maes celf a chrefft, gêmau, Nintendo Wii, a llawer mwy!

Bydd Hwyl y Gwyliau yn rhedeg o 10.00yb tan 3.00yp ar y 15fed/16eg/17eg o Chwefror 2016.

Archebwch le nawr!

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr ar 01656 732200.

#DyddMiwsigCymru – Dathlu Cerddoriaeth Cymraeg

Plu

Eleni, am y tro cyntaf 12 Chwefror, 2016 yw Dydd Miwsig Cymru – diwrnod i gyd-ddathlu cerddoriaeth Cymraeg yn arwain i fyny at wobrau’r Selar ar 20 Chwefror, 2016.

Gyda chefnogaeth rhai o brif gerddorion Cymru a’r diwydiant, bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o, a dathlu bron i 50 mlynedd o gerddoriaeth anhygoel.

Mae modd i bawb fod yn rhan o’r dathlu o  siopau neu gaffis, i ysgolion a cholegau gefnogi drwy gynnal cystadlaethau, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl ifanc i wrando, mwynhau a chymryd rhan. Bydd pecynnau adnoddau arbennig ar gael i ysgolion a sefydliadau addysg i’w helpu gyda threfniadau.

Gall unrhyw un gefnogi’r ymgyrch #DyddMiwsigCymru drwy rannu eu hoff #Tiwn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Gwenno

Rwyf wedi ail-ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, a sylweddoli y cyfoeth ohoni sy’n bodoli. Mae hyn wedi cael dylanwad anferthol arna i ac wedi rhoi llwyth o hyder i fi fynegi fy hun yn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg, sef fy iaith gyntaf.

Mike Williams, Prif Olygydd NME

Roeddwn i’n caru bod yr iaith yn llai ffurfiol wrth ganu nag yn yr ysgol. Fel rhywun o deulu oedd yn siarad Saesneg, fe roddodd hynny fwy o hyder i mi wrth gyfleu fy hun yn Gymraeg.

Osian, Candelas

Ma’ mywyd i wedi bodoli o gwmpas cerddoriaeth Gymraeg erioed i fod yn onest. Mae o wedi ngalluogi fi i fod yn gerddor proffesiynol(ish) a dwi ddim yn gwbod os fysw ni wedi cael hanner y cyfleoedd yn canu mewn iaith arall!

Dyma 5 peth y gelli di wneud i ddathlu #DyddMiwsigCymru

(http://cymraeg.llyw.cymru/More/projects/dydd-miwsig/?lang=cy)

Diwrnod Santes Dwynwen 2016

 

12417629_960527034021205_4795731476236930808_n

Wnaethoch chi ddathlu diwrnod Santes Dwynwen eleni? Fe wnaethon ni ddathlu yma ym Menter Bro Ogwr yn ein Siop Siarad, Clwb Ieuenctid ac mewn digwyddiad arbennig ym Mharc Bryngarw.

Cawson ni hwyl yn y Siop Siarad yn gwneud gweithgaredd ‘Colofn Cariad’ lle’r oedd rhaid dyfalu’r person enwog o’r disgrifiadau bach a chawson ni drafodaeth am Gariad yn gyffredinol. Roedd cystadleuaeth Siôn a Siân yn y clwb ieuenctid dydd Llun. Cyfle i’r ieuenctid ddangos faint maen nhw’n nabod ei ffrindiau a chael bach o sbort.

Ar ddydd Sadwrn, 23ain o Ionawr, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad ar y cyd â Mudiad Meithrin, Tyfu a Pharc Bryngarw gan gynnig gweithgareddau celf a chrefft, stondinau gwybodaeth a stondin Siop yr Hen Bont yn y ganolfan ymwelwyr. Roedd y digwyddiad ar gyfer teuluoedd yn llwyddiannus gyda nifer o bobl yn rhoi tro ar greu llwy garu allan o glai a mwy!

Diolch i bawb daeth i’r digwyddiadau a gobeithio cawsoch chi gyd ddiwrnod Santes Dwynwen hyfryd!

12438990_960437950696780_8097149021163000238_n (1)

 

Gŵyl Cerdd Dant yn dod i Borthcawl

Gŵyl Cerdd Dant 2015

Mae Gŵyl Undydd Fwyaf Ewrop yn dod i Borthcawl!

Gŵyl Cerdd Dant yw gŵyl gystadleuol undydd fwyaf Ewrop ac mae’n rhoi llwyfan i hoff draddodiadau gwerinol Cymru bob blwyddyn.

Nid yn unig y cawn fwynhau unawdau, deuawdau a chorau cerdd dant, ond bydd cyfle hefyd i glywed unawdau a phartïon llefaru; rhywfaint o ganu gwerin; unawdau a deuawdau ar y delyn, a digon o dwrw wrth i’r dawnswyr gwerin a’r clocswyr
lenwi’r lle. Ymunwch yn yr hwyl a dewch i Bafiliwn y Grand ar
Ddydd Sadwrn 14eg o Dachwedd 2015!

Gŵyl Cerdd Dant 2015 2

Diwrnod Shwmae Su’mae 2015

IMG_7571

Ar ddydd Iau, Hydref 15fed cynhaliwyd y trydydd Diwrnod Shwmae Sumae, ac unwaith eto buodd Menter Bro Ogwr a nifer o bobl eraill ar draws y wlad yn brysur yn annog pobl i gyfarch pawb gyda “Shwmae” neu “Su’mae”.

Eleni, aeth Menter Bro Ogwr â Sali Mali i Borthcawl, Sainsbury’s Sarn a Phen-y-bont i gyfarch pobl a lledaenu’r neges am y diwrnod. Cwrddodd Sali Mali â nifer o bobl hyfryd ar ei theithiau ac fe dynnwyd nifer o luniau neis gyda nhw. Mae’r lluniau yma nawr i’w gweld ar dudalen Facebook Menter Bro Ogwr (@menterbroogwr) a rhai ar ein gwefan ac ar Twitter hefyd. Gofynnon ni hefyd i chi bostio eich lluniau ohonoch chi’n dathlu diwrnod Shwmae ar ein tudalen Facebook a Twitter am gyfle i ennill taleb ar gyfer Siop yr Hen Bont. Bydd y llun buddugol yn cael ei ddewis wythnos nesaf.

Hoffai Menter Bro Ogwr ddiolch yn fawr iawn i Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl am y croeso ac yr ystafell wisgo bersonol i Sali Mali ac i Sainsbury’s Sarn hefyd am y croeso. Diolch hefyd i Sgwadron Abercynffig, Tyfu gyda’r Gymraeg – Pen-y-bont, Llyfrgell Pen-y-bont, Cafe Mimis, The Bridge, Coleg Pen-y-bont, YellowWales, BAVO, Cylch Meithrin Plant Bach Sarn, Prosiect Cymunedol Noddfa, Siop Siarad Pen-y-bont a phawb arall sydd wedi cyfrannu eu lluniau bendigedig!

Mae wedi bod yn hyfryd gweld pawb yn cofleidio’r diwrnod cenedlaethol yma. Mae Menter Bro Ogwr yn methu aros tan ddiwrnod Shwmae Su’mae blwyddyn nesaf!

Cliciwch ar y linc i weld criw y Siop Siarad yn dweud Shwmae!

IMG_7486

Diweddu Gŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr gan ffarwelio â’n Swyddog Ieuenctid – Yasmin Morris

IMG_6397

Mae wythnos Gŵyl Gymraeg y Fenter wedi dod i ben gyda phawb wedi joio sawl un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi ni; plant, pobl ifanc ac oedolion.

Ni fyddai’r digwyddiadau yma’n bosib heb waith trefnu, paratoi ac ymroddiad tîm cyfan y Fenter a chefnogaeth gwirfoddolwyr a rhoddodd eu hamser i sicrhau bod y digwyddiadau’n mynd bant gyda bang!

Rydym hefyd yn gorffen ein hwythnos gan ffarwelio â’n Swyddog Ieuenctid Yasmin Morris. Bydd Yasmin yn dechrau yn ei swydd newydd gyda Menter Abertawe wythnos nesaf. Yn yr amser byr y mae Yasmin wedi bod gyda Menter Bro Ogwr, mae wedi gadael ei marc ar y sefydliad a byddwn ni’n ei gweld eisiau. Dymunwn bob lwc iddi yn ei swydd newydd. Pob lwc a diolch yn fawr iawn.