Archifau Categori: Newyddion

Ydych chi eisiau help i ysgrifennu CV dwyieithog?

Mae’r gallu i siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn sgil sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr.  Defnyddiwch eich sgiliau dwyieithog!

Mae Menter Bro Ogwr yn gallu helpu chi adeiladu CV dwyieithog.  Os oes diddordeb gyda chi yn y gwasanaeth yma cysylltwch â ni heddiw ar y manylion isod:

menter@broogwr.org

01656 732 200

Mae gallu defnyddio iaith yn sgil defnyddiol – mae gen ti ddwy!

 

 

 

Cymraeg Byd Busnes

Mae gwasanaeth adborth a chefnogaeth busnes newydd ar gael ar gyfer busnesau bach a chanolig, wedi’i greu er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau darparwyd gan Busnes Cymru. Mae’r prosiect cenedlaethol Cymraeg Byd Busnes â chefnogaeth lywodraethol, ac mae’r nod i gynorthwyo cwmnïoedd bach, annibynnol i fanteisio o’r buddion defnyddio rhagor o Gymraeg yn eu model busnes.

Mae’r gwasanaeth ar gael i bob busnes, difater ei defnydd presennol o’r iaith; gall llawer o gwmnïoedd elwa o fanteision defnyddio rhagor o Gymraeg, hyd yn oed nid yw’r perchenogion eu hun yn ei siarad.

Darparir swyddogion y prosiect asesiad am ddim, adborth wedi’i deilwra a chymorth ymarferol, ac maent yn gallu awgrymu camau di-dâl (neu rad iawn) posibl i’r busnesau, yn ogystal â’u cyflwyno i ffyrdd a cyfleoedd newydd marchnata.

Mae pedwar o swyddogion sy’n gyfrifol dros Dde-ddwyrain Cymru (mae tri ohonynt yn rhan o’r prosiect, gydag un arall sy’n annibynnol ond sy’n gweithio yn agos), a byddant yn cyfeirio at Busnes Cymru ble mae’n addas. Mae bob un o’r swyddogion wedi adnabod blaenoriaethau a sectorau targed ar gyfer ei ardal, a byddent yn fodlon i gwrdd â chynghorwyr i roi rhagor o wybodaeth beth maent yn gallu cynnig.

Gwybodaeth cyswllt

Gwefan: www.llyw.cymru/cymraeg

Facebook: www.facebook.com/Welsh4Business

Twitter: @Welsh4BizSouthE

Rhondda Cynon Taf, Bro Ogwr, Merthyr Tudfil

Rhys Thomas

07809731561

Rhys.Thomas@CymraegBusnes.Cymru

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Llyfr digidol newydd sy’n dathlu rhai o gewri pêl-droed Cymru

Mae dau frodor o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfuno i ryddhau llyfr Cymraeg digidol am hanes cynnar pêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd.

Mae Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950–1974 bellach ar gael i’w archebu am £3.49 ar wefan Kindle, er na chaiff ei ddosbarthu i ddarllenwyr tan 25 Rhagfyr. Rhoddir yr holl elw sy’n deillio o’r llyfr i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr.

Yn ôl yr awdur, Huw Portway, dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i ymdrin yn fanwl â phob gêm Cymru yng Nghwpan y Byd o’r ymgyrch wreiddiol, sef 1950, tan 1974.

Cyfieithydd yw Huw a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Porthcawl a bu’n llafurio i gwblhau a chyhoeddi’i lyfr ers ail hanner y 1990au.

“Mae hi wedi bod yn broses hir a hynod rwystredig ar adegau,” meddai Huw am ei ymdrechion dros y blynyddoedd. “Ond roeddwn i’n benderfynol o beidio â rhoi’r ffidil yn y to.”

Mae’n cyfaddef na fyddai wedi llwyddo i roi’r maeni’r wal heb gymorth amhrisiadwy ei gyd-gyfieithydd Lloyd Evans, a fu’n barod i brawfddarllen y llyfr cyfan am ddim y llynedd.

“Rydw i’n credu y byddwn i wedi bod wrthi tan Ddydd y Farn heb gyfraniad Lloyd,” mae Huw yn esbonio. “Heb gyhoeddwr traddodiadol, mae’n anodd iawn i awdur annibynnol bwyso a mesur ei waith ei hun, felly roedd gwir angen pâr arall o lygaid i fwrw golwg drosto. “Yn sicr, mae Lloyd wedi helpu i gael gwared ar unrhyw gamgymeriadau – dyna’r gobaith beth bynnag!”

Fel Huw, dysgodd Lloyd, sy’n hanu o Faesteg, y Gymraeg fel ail iaith ac ef yw cadeirydd Menter Iaith Bro Ogwr, yn ogystal â bod yn uwch-gyfieithydd gyda chwmni Prysg.

Mae’r llyfr yn trafod anturiaethau pêl-droedwyr Cymru wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf yng Nghwpan y Byd rhwng 1950 a 1974, gan gynnwys gorchestion y tîm a ddisgleiriodd yn y rowndiau terfynol yn Sweden ym 1958 cyn colli yn erbyn Brasil, o ganlyniad i gôl gan lanc 17 oed o’r enw Pelé.

Mae’n dilyn holl yrfaoedd rhyngwladol enwogion fel John Charles, Ivor Allchurch a Jack Kelsey; siom y 1960au pan gloffodd y crysau cochion yn wyneb gelyniaeth agored rhai o glybiau mwyaf Lloegr; a gwreichion cyntaf yr adfywiad a geid yn ail hanner y 1970au wrth i sêr newydd fel Terry Yorath, John Mahoney, John Toshack a Leighton James ddod i’r amlwg.

“Er mai’r gystadleuaeth yn Sweden yw canolbwynt y llyfr, yn ddealladwy, mae’r holl gyfnod hwn yn ddiddorol iawn, yn fy marn i, gan fod tîm Cymru wedi gorfod ymdopi â chynifer o anawsterau yn sgìl cyffro 1958,” meddai Huw. “Fel sy’n wir mewn llawer o feysydd, gellir dadlau bod y methiannau’n fwy difyr na’r llwyddiannau. Rydw i’n siŵr bod digon i fodloni unrhyw un sy’n ymhyfrydu ym myd y campau yma.

“Cofiwch hefyd y bydd yr holl elw’n mynd at achos da, sef helpu Menter Iaith Bro Ogwr i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae’r pris yn rhesymol iawn, felly rydw i’n eich annog chi i’w brynu cyn gynted â phosib!”

NOSON I’R BRENIN

Mae Gŵyl Elvis Porthcawl wedi cyhoeddi bod pedwerydd diwrnod o weithgareddau Cymraeg wedi cael ei ychwanegu at yr Ŵyl eleni.

Gelwir dydd Iau Medi 21ain yn ‘Ddiwrnod I’r Brenin’. Wedi’i leoli ym Mhafiliwn y Grand, bydd y diwrnod yn cynnwys nifer o berfformiadau gan grŵpiau o’r gymuned a gweithdai, y cyfan ar thema sy’n ymwneud ag Elvis. Bydd mynediad i’r cyhoedd i’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim. Gyda’r nos bydd sioe â mynediad drwy docyn – ‘Noson I’r Brenin – a bydd y sioe hon yn cynnwys artistiaid o Gymru yn talu eu teyrnged eu hunain i Elvis yn Gymraeg. Bydd yr actau’n cynnwys Bronwen Lewis, Dan Lloyd, Wynne Roberts a Chôr ‘The Voices’ a John ac Alun. Am fanylion llawn:

http://www.elvies.co.uk/Documents/Noson%20Poster%20Final.pdf

Yn ôl Trefnydd Gŵyl Elvis Porthcawl Peter Phillips, ‘Yn 2015, fe wnaethon ni gynhyrchu sioe arbennig o’r enw ‘Elvis Cymraeg‘i gyd-fynd â Chwpan Rygbi’r Byd. Bu hyn yn gymaint o lwyddiant, fe wnaethon ni benderfynu i fwrw ati i ychwanegu diwrnod arall i’r Ŵyl – diwrnod a fyddai’n hollol Gymraeg ei iaith – ond hefyd yn Elvis i’r carn. Wedi’r cyfan, mae e wedi cael ei brofi bod y teulu Presley gwreiddiol yn hannu o Gymru! Rydym wrth ein bodd gyda’r ffordd y mae’r rhaglen wedi dod at ei gilydd. Bydd yn arddangos doniau rhyfeddol artistiaid Cymraeg ac rwy’n siwr y bydd yn apelio yn yr un modd at bobl nad ydynt yn gallu siarad yr iaith.’

Am fanylion pellach, cysylltwch â PETER PHILLIPS

peter.phillips@elvies.co.uk

07711 419736

Cofio Colin

Heddiw, dathlwyd bywyd Richard Colin Lewis a hunodd yn dawel ar ddydd Iau, Gorffennaf y 27ain, 2017 yn 75 mlwydd oed. Roedd Colin yn allweddol iawn i dyfiant a chyfleoedd yr Iaith Gymraeg ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd gan Colin yr angerdd i ddysgu iaith y nefoedd ei hun ac wedi rhoi’r cyfle gorau i’w blant i fedru siarad yr iaith.

Roedd Colin yn aelod o Blaid Cymru, wedi bod yn allweddol i agoriad Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr, ac wedi parhau fel llywodraethwr yr ysgol ers 1992.

Roedd yn allweddol i ddatblygiad RhAG o fewn ein Bwrdeistref a Colin oedd un o drigolion ein Sir a sefydlodd Menter Iaith Bro Ogwr.

Sefydlwyd Menter Bro Ogwr yn 1993 o ganlyniad i bobl gref fel Colin. Parhaodd Colin i gefnogi’r Fenter wrth i’r mudiad ddatblygu a thyfu i beth ydyn ni heddiw gan gytuno i fod yn ymddiriedolwr i Bwyllgor Rheoli’r Fenter.

Colin – rydych chi wir wedi bod yn arwr i’r Iaith ac os ydyn ni fel staff yn gallu dangos yr un cryfder, ymrwymiad, hyder a dyfalbarhad yna bydd yr Iaith yn parhau i ffynnu.

Diolch yn fawr iawn i chi am bopeth.

Nos da, cysga’n dawel mewn hedd, “Hedd, Perffaith Hedd”

Amanda Jaine Evans – Prif Swyddog Iaith Menter Bro Ogwr

Prosiect Enwau Lleoedd Penybont-ar-Ogwr

Mae enwau lleoedd yn rhan o’n bywydau pob dydd ac rydym mor gyfarwydd â’u gweld ar arwyddion wrth deithio o un lle i’r llall, o’u clywed mewn sgyrsiau pob dydd neu ar y newyddion, maent bron wedi mynd yn anweladwy wrth droi’n eiriau heb fawr o gyd-destun.

 

Ond mae tarddiad yr holl enwau yn cynnwys elfennau ieithyddol, hanesyddol, daearyddol, diwylliannol a threftadaeth yr ardal. Gall hyn fod o ddiddordeb mawr i bobl sy’n ymweld â’r ardal, o dramor er enghraifft wrth iddynt archwilio hanes teulu, neu fe all drafodaeth enwau lleoedd i ddisgyblion ysgol dod ag elfen fwy personol a gwahanol i wersi hanes a daearyddiaeth.

 

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn dod i’r ardal ym mis Mai eleni, mae’n gyfle gwych i gynnal y fath prosiect ar y cyd â Cwmni2 a Reach er mwyn hybu cymaint o bethau yn yr ardal i ymwelwyr, cerddwyr, clybiau hanes a chlybiau camerâu ac yn enwedig ysgolion ac oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

 

Mae’n gyfle i hybu’r iaith yn yr ardal a hefyd, sydd efallai’n fwy pwysig, yn gyfle i atgoffa pawb am Gymreictod yr ardal. Yn ôl cyfrifiad 2011, 11% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg ond mae gan yr ardal y fraint hanesyddol o agor y drydedd ysgol cyfrwng Cymraeg erioed yng Nghymru (Tyderwen, yn Nantyffyllon ym 1948). Ac mae yna lu o bethau eraill hefyd i’w nodi yn y llyfryn a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod.

 

Fel rhan o’r prosiect, bydd gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd, ieuenctid ac oedolion. Rydym yn awyddus iawn i drigolion cael cyfle i gyfranogi yn y prosiect. Dewch i ddysgu mwy am y prosiect ar nos Fercher, 3ydd o Fai 2017 yng Nghlwb Criced Tondu am 7yh. Bydd David Thomas ac Amanda Jaine Evans yn rhoi sgwrs am y prosiect. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb felly dewch yn llu!