Perfformiad Mwnci ar Dân

5 Hydref, Pafiliwn y Grand Porthcawl, 1yp

Mae perfformiad Mwnci ar Dân wedi cael ei drefnu gan Menter Bro Ogwr ym Mhafiliwn Porthcawl ar y 5ed o Hydref 2015 am 1yp, gyda 20 munud o drafodaeth anffurfiol ar ôl y perfformiad.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, yna mae’n rhaid i chi archebu tocynnau erbyn 30 Medi drwy ffonio swyddfa Menter Bro Ogwr: 01656 732200.

MWNCI AR DÂN

Drama pwerus yw Mwnci ar Dân gan Sera Moore Williams, sy’n tynnu sylw at faterion sy’n bwysig i arddegwyr – rhyfel, trais, teuluoedd sydd wedi gwahanu a chyfrifoldebau.

Mae cymeriad Hen yn cael ei blagio gan ei atgofion o’i gyfnod fel milwr. Mae Mwnci yn edrych ‘mlaen i gael dianc o ddiflastod ei fywyd ac ymuno a’r fyddin. Mae Shell yn bymtheg, mewn cariad llwyr â Mwnci, ac yn feichiog gyda ei blentyn.

Fe fydd arddull y ddrama yn foel ac yn uniongyrchol, gyda hiwmor yn chwarae rhan fawr, fel ag yw’r arfer erbyn hyn yng ngwaith y cwmni ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Nodir bod y ddrama hon yn un o’r testunau ar gyfer TGAU Drama ac hefyd yn addas i waith ABCh.

POSTER_MWNCI_dim_logos2015