GALWAD SGRIPT – DRAMA – ar gyfer S4C ac BBC Cymru

Cyfle cyffrous i hyfforddi sgriptwyr newydd. Rydym yn gwahodd sgripwyr ffilm fer i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddi It’s My Shout 2018. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae It’s My Shout wedi cynhyrchu ffilmiau o safon sydd wedi ennill ffilmiau Bafta Cymru, drwy gydweithio gyda’n partneriaid BBC Cymru Wales a S4C. Bydd y sgriptwyr yn cael eu datblygu a’u hyfforddi yn ystod yr haf. Mae It’s My Shout yn chwilio am ffilmiau cyffrous ac amrywiol, a hoffem annog sgriptwyr comedi i ymgeisio. Bydd BBC Writersroom ynghlwm trwy gydol y proses. Byddwn yn croesawu sgriptiau sy’n cynnwys cymeriadau ifanc (rhwng 12 – 24 oed) sy’n perthyn i amrywiol gefndiroedd economaidd a chymdeithasol, gan adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Mae amrywiaeth yn bwysig i ni, a byddem yn annog cast mawr os yw hynny yn briodol. Rydym yn edrych am waith creadigol a fydd yn cwmpasu ystod eang o genres a phynciau. Ond canllaw yn unig yw hyn, ac ni fyddem yn diystyru sgriptiau sydd ddim yn cynnwys y nodweddion hyn. Byddwn yn ffilmio ar hyd a lled Cymru; yn y gogledd, y gorllewin, y cymoedd, Caerdydd a Chasnewydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu mwynhau eu ffilmiau deng munud yn cael eu darlledu ar BBC Cymru Wales neu S4C; byddent hefyd yn ymddangos mewn noson gala ym mis Medi. Dyma gyfle gwych i unrhyw un unrhyw sydd ag angerdd i greu sgript wreiddiol a gweledol. Y dyddiau cau ar gyfer y ceisiadau yw Ebrill 27ain am hanner nos. Cynhelir yr amserlen ffilmio rhwng Mehefin ac Awst 2018.
I gyflwyno eich sgript, dilynwch y linc: https://form.jotformeu.com/73514690509359
Neu cerwch ar ein gwefan: www.itsmyshout.co.uk