Taith Nadolig Sali Mali Mudiad Meithrin Pen-y-bont a Menter Bro Ogwr 29/11/13 – 5/12/13

sali mali

Dros gyfnod o 5 niwrnod fe ymwelodd Sali Mali â 5 Cylch Ti a Fi ac 11 Cylch Meithrin yn Sir Pen-y-bont. Roedd cyfle i blant a rhieni canu a dawnsio gyda Sali Mali, gan ddysgu ambell i gân newydd hefyd.

Dosbarthwyd pecynnau i bob plentyn, yn cynnwys gwybodaeth am Fenter Bro Ogwr, Mudiad Meithrin a llenyddiaeth yn hybu manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg, hefyd cerdyn Nadolig i liwio!

Ym mhob Ti a Fi ac mewn rhai o’r cylchoedd meithrin, roedd ‘na gyfle i siarad gyda’r rhieni yn uniongyrchol ynglŷn â gwaith Menter Bro Ogwr a Mudiad Meithrin, a manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg. Cafodd 212 o blant y cyfle i ddawnsio a chanu gyda Sali Mali, ac roedd cyfle i siarad â 70 o rieni yn uniongyrchol. Dosbarthwyd cyfanswm o 293 o becynnau gwybodaeth, trwy’r plant yn y cylchoedd meithrin, neu’n uniongyrchol i’r rhieni/ gofalwyr.