Beth yw Menter Iaith?

Nod y Mentrau Iaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru.

Y Mentrau Iaith

Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain. Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru.

Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg.  Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.

Mae’r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.