Archif Tag: Place Names

Prosiect Enwau Lleoedd Penybont-ar-Ogwr

Mae enwau lleoedd yn rhan o’n bywydau pob dydd ac rydym mor gyfarwydd â’u gweld ar arwyddion wrth deithio o un lle i’r llall, o’u clywed mewn sgyrsiau pob dydd neu ar y newyddion, maent bron wedi mynd yn anweladwy wrth droi’n eiriau heb fawr o gyd-destun.

 

Ond mae tarddiad yr holl enwau yn cynnwys elfennau ieithyddol, hanesyddol, daearyddol, diwylliannol a threftadaeth yr ardal. Gall hyn fod o ddiddordeb mawr i bobl sy’n ymweld â’r ardal, o dramor er enghraifft wrth iddynt archwilio hanes teulu, neu fe all drafodaeth enwau lleoedd i ddisgyblion ysgol dod ag elfen fwy personol a gwahanol i wersi hanes a daearyddiaeth.

 

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn dod i’r ardal ym mis Mai eleni, mae’n gyfle gwych i gynnal y fath prosiect ar y cyd â Cwmni2 a Reach er mwyn hybu cymaint o bethau yn yr ardal i ymwelwyr, cerddwyr, clybiau hanes a chlybiau camerâu ac yn enwedig ysgolion ac oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

 

Mae’n gyfle i hybu’r iaith yn yr ardal a hefyd, sydd efallai’n fwy pwysig, yn gyfle i atgoffa pawb am Gymreictod yr ardal. Yn ôl cyfrifiad 2011, 11% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg ond mae gan yr ardal y fraint hanesyddol o agor y drydedd ysgol cyfrwng Cymraeg erioed yng Nghymru (Tyderwen, yn Nantyffyllon ym 1948). Ac mae yna lu o bethau eraill hefyd i’w nodi yn y llyfryn a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod.

 

Fel rhan o’r prosiect, bydd gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd, ieuenctid ac oedolion. Rydym yn awyddus iawn i drigolion cael cyfle i gyfranogi yn y prosiect. Dewch i ddysgu mwy am y prosiect ar nos Fercher, 3ydd o Fai 2017 yng Nghlwb Criced Tondu am 7yh. Bydd David Thomas ac Amanda Jaine Evans yn rhoi sgwrs am y prosiect. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb felly dewch yn llu!