Mae dau frodor o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfuno i ryddhau llyfr Cymraeg digidol am hanes cynnar pêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd.
Mae Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950–1974 bellach ar gael i’w archebu am £3.49 ar wefan Kindle, er na chaiff ei ddosbarthu i ddarllenwyr tan 25 Rhagfyr. Rhoddir yr holl elw sy’n deillio o’r llyfr i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr.
Yn ôl yr awdur, Huw Portway, dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i ymdrin yn fanwl â phob gêm Cymru yng Nghwpan y Byd o’r ymgyrch wreiddiol, sef 1950, tan 1974.
Cyfieithydd yw Huw a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Porthcawl a bu’n llafurio i gwblhau a chyhoeddi’i lyfr ers ail hanner y 1990au.
“Mae hi wedi bod yn broses hir a hynod rwystredig ar adegau,” meddai Huw am ei ymdrechion dros y blynyddoedd. “Ond roeddwn i’n benderfynol o beidio â rhoi’r ffidil yn y to.”
Mae’n cyfaddef na fyddai wedi llwyddo i roi’r maeni’r wal heb gymorth amhrisiadwy ei gyd-gyfieithydd Lloyd Evans, a fu’n barod i brawfddarllen y llyfr cyfan am ddim y llynedd.
“Rydw i’n credu y byddwn i wedi bod wrthi tan Ddydd y Farn heb gyfraniad Lloyd,” mae Huw yn esbonio. “Heb gyhoeddwr traddodiadol, mae’n anodd iawn i awdur annibynnol bwyso a mesur ei waith ei hun, felly roedd gwir angen pâr arall o lygaid i fwrw golwg drosto. “Yn sicr, mae Lloyd wedi helpu i gael gwared ar unrhyw gamgymeriadau – dyna’r gobaith beth bynnag!”
Fel Huw, dysgodd Lloyd, sy’n hanu o Faesteg, y Gymraeg fel ail iaith ac ef yw cadeirydd Menter Iaith Bro Ogwr, yn ogystal â bod yn uwch-gyfieithydd gyda chwmni Prysg.
Mae’r llyfr yn trafod anturiaethau pêl-droedwyr Cymru wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf yng Nghwpan y Byd rhwng 1950 a 1974, gan gynnwys gorchestion y tîm a ddisgleiriodd yn y rowndiau terfynol yn Sweden ym 1958 cyn colli yn erbyn Brasil, o ganlyniad i gôl gan lanc 17 oed o’r enw Pelé.
Mae’n dilyn holl yrfaoedd rhyngwladol enwogion fel John Charles, Ivor Allchurch a Jack Kelsey; siom y 1960au pan gloffodd y crysau cochion yn wyneb gelyniaeth agored rhai o glybiau mwyaf Lloegr; a gwreichion cyntaf yr adfywiad a geid yn ail hanner y 1970au wrth i sêr newydd fel Terry Yorath, John Mahoney, John Toshack a Leighton James ddod i’r amlwg.
“Er mai’r gystadleuaeth yn Sweden yw canolbwynt y llyfr, yn ddealladwy, mae’r holl gyfnod hwn yn ddiddorol iawn, yn fy marn i, gan fod tîm Cymru wedi gorfod ymdopi â chynifer o anawsterau yn sgìl cyffro 1958,” meddai Huw. “Fel sy’n wir mewn llawer o feysydd, gellir dadlau bod y methiannau’n fwy difyr na’r llwyddiannau. Rydw i’n siŵr bod digon i fodloni unrhyw un sy’n ymhyfrydu ym myd y campau yma.
“Cofiwch hefyd y bydd yr holl elw’n mynd at achos da, sef helpu Menter Iaith Bro Ogwr i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae’r pris yn rhesymol iawn, felly rydw i’n eich annog chi i’w brynu cyn gynted â phosib!”