Sut mae dathlu?
Rhannwch eich lluniau gyda ni i ddangos pam ‘dych chi’n falch o fod yn Gymro!
Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ‘dyn ni wedi trefnu her i chi!!
Yr her yw, i rannu llun neu fideo o rywbeth sy’n eich gwneud chi’n falch i fod yn Gymro, er mwyn dangos eich balchder yn ein hiaith, traddodiadau a bwydydd rhyfeddol a harddwch ein gwlad.
Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o ddiwrnod pwysig iawn i ni yng Nghymru sef Dydd Gŵyl Dewi.
Gall eich llun neu fideo gynnwys eich hoff le i fynd yng Nghymru, eich hoff fwyd Cymreig, neu hyd yn oed hunlun ohonoch chi’n gwisgo cennin Pedr neu genhinen.
Rhannwch eich lluniau ar ein tudalen Facebook a Twitter a dangoswch pam eich bod chi’n falch o fod yn Gymro, ar ddydd Gŵyl Dewi.
Galwch draw i’n gweld ni yng Ngholeg Pencoed a Phenybont!
Bydd stondin gyda ni a’r Urdd yng Ngholeg Pencoed dydd Llun 29ain o Chwefror a stondin yng Ngholeg Penybont ar y 1af a’r 2il o Fawrth. Dewch draw i’n gweld ni!
Mae Menter Bro Ogwr yn gobeithio gweithio gyda chi’r myfyrwyr i sefydlu gweithgor neu gymdeithas. Pwrpas y gweithgor neu’r gymdeithas fydd trefnu gweithgareddau a digwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill a defnyddio eich Cymraeg yn y coleg. Bydd cyfle i lenwi ein holiadur a chyfle ennill gwobr pob dydd am wneud!
Dewch i weld Menter Bro Ogwr a Sam Tân yn Sainsbury’s a chystadlu yn y cystadleuaeth lliwio!
Mae Sainsbury’s yn rhedeg cystadleuaeth arbennig unwaith eto eleni – cystadleuaeth lliwio Dydd Gŵyl Dewi! Mae modd i chi gasglu’r tudalennau lliwio o Sainsbury’s, swyddogion y Fenter a Siop Yr Hen Bont. Bydd Sainsbury’s yn cynnig gwobr i’r enillydd.