Hanes Menter Bro Ogwr

Hanes Menter Bro Ogwr

Sefydlwyd Menter Bro Ogwr yn Hydref 1993 gan griw o wirfoddolwyr oedd eisiau sicrhau llais i’r iaith Gymraeg.

Nod y Fenter oedd codi proffil yr iaith ym Mro Ogwr drwy gynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn ogystal â magu hyder a chynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg newydd. 

Mae Menter Bro Ogwr yn hybu ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy gydweithio â mudiadau, cymdeithasau, busnesau,

 dysgwyr ac ysgolion. Bwriad y Fenter yw codi p

roffil yr iaith Gymraeg yn y sir gan gynyddu cyfleoedd trigolion o bob oedran i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth o feysydd.