Bytis Bygis

BYTIS BYGIS 

Y ffordd orau i gadw’n heini wrth fondio gyda’ch plentyn, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio neu ddysgu ychydig o Gymraeg ar yr un pryd!

Rydym yn cwrdd unwaith y mis ac yn mynd am dro gan adnabod a dysgu pethau gwahanol yn y Gymraeg. Rydym yn gorffen y sesiwn gyda gweithgaredd celf yn y ganolfan gyda chaneuon Cymraeg i chi a’ch plant i ddysgu. Ffordd wych i chi gael rhywfaint o awyr iach, diddanu’r plant a chymdeithasu.

Nid yw bygis yn hanfodol, rydym yn croesawu plant o bob oedran!