Ras yr Iaith

Ras yr Iaith

 

 

Mae Ras yr Iaith yn ddigwyddiad cenedlaethol sydd yn cael ei threfnu gan y rhwydwaith o Fentrau Iaith Cymru. Roedd Menter Bro Ogwr yn awyddus i gynnig y Ras hon o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ar y 6ed o Orffennaf 2018, cynhaliwyd cymal o’r ras ym Mhorthcawl am y tro cyntaf.

Hanes Ras yr Iaith

Mae’r Ras wedi ei seilio ar ras y Korrika a ddechreuodd yng Ngwlad y Basg, sydd wedi esgor ar ras debyg yn Llydaw (ar Redadeg) a’r Iwerddon (anRith). Cynhaliwyd y Ras yr Iaith cyntaf yng Nghymru yn 2014 ac yna 2016, bydd y nesaf yn mis Gorffennaf 2018.

Beth yw Ras yr Iaith?

Nid ras i athletwyr yw Ras yr Iaith, nid yw hi’n gystadleuol, ras yw hi dros y Gymraeg gan bobl

Cymru. Ei phwrpas yw dathlu’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos hyder ati a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad.

Hybur Gymraeg: Tynnu siaradwyr Cymraeg, Cymry Cymraeg, pobl di-Gymraeg a dysgwyr at ei gilydd.

Hybu Mudiadau Cymraeg: Cyfle i gryfhau mudiadau Cymraeg a chlybiau drwy godi proffil ac arian mewn digwyddiadau ar hyd y daith.

Uno Cymru ar Gymraeg: Bydd y Ras yn cysylltu ardaloedd Cymraeg a di-Gymraeg eu hiaith, trefol a gwledig, breintiedig a difreintiedig gan ddangos amrywiaeth siaradwyr Cymraeg.

Codi Proffil y Gymraeg: Bydd yn denu sylw yn y cyfryngau Cymraeg a Chymreig yn genedlaethol ac yn lleol, ac yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar y we. Bydd yn ffordd bositif o ddangos fod y Gymraeg yn iaith ac iddi filoedd o gefnogwyr.

Codi Proffil Cymunedau: Tynnu sylw at fudiadau a sefydliadau cymunedol a chryfder cymunedau ar hyd y daith.

Hybu Iechyd Corfforol: Bydd yn hyrwyddo iechyd corfforol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ffordd o Gymreigio clybiau athletau a chlybiau chwaraeon eraill sy’n cymryd rhan.

Codi arian: Buddsoddi’r elw o’r ras yn ôl i fudiadau er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Gweinyddir yr arian a godir gan Rhedadeg Cyf – cwmni nid-er-elw a sefydlwyd yn unswydd i gefnogi’r ras.