Archif Awdur: Golygydd Menter

Taith Nadolig

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan                                             Nos Iau 11 Rhagfyr 2014,                                                             Gadael: Holiday Inn Sarn 6:00yh, Pris: £10.50

Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda Menter Bro Ogwr yn ddigwyddiad Nadolig Sain Ffagan—Canu yn y Capel. Caneuon Nadoligaidd traddodiadol a chyfoes yng Nghapel hynafol Penrhiw o dan arweiniant Alun Guy a’r organydd Leighton Sault-Jones. Bydd cyfle i gael mins pei a gwin cynnes y gaeaf hanner awr o flaen llaw.

Dyddiad Cau: 05 Rhagfyr 2014!

ARCHEBWCH EICH LLE NAWR!

FFONIWCH MENTER BRO OGWR NEU EWCH I

SIOP YR HEN BONT, PEN-Y-BONT.

menter@broogwr.org

01656 732200

taith nadolig Sain Ffagan 2014 C

.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Bro Ogwr

04.12.14, Bwyty’r Tymhorau, Coleg Pen y Bont ar Ogwr, 6:30yh-7:30yh

Dewch i glywed am waith y Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf. Ydych chi’n berson brwdfrydig sydd eisiau cael mewnbwn yn natblygiadau’r iaith Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Rydyn ni’n edrych am aelodau newydd ar gyfer pwyllgor rheoli’r Fenter. Dyma gyfle i chi gael eich ethol. Ymunwch â ni er mwyn gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym Mro Ogwr.

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr am ragor o fanylion:

01656 732 200                                                                                                menter@broogwr.org

Cyfarfod Blynyddol 2014 C

Rhieni Dros Addysg Gymraeg Yn galw rhieni ysgolion cyfrwng Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr!

Rhieni Dros Addysg Gymraeg                                                                     Yn galw rhieni ysgolion cyfrwng Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr!

Mae Cyngor Pen-y-bont yn ystyried rhoi’r gorau i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n derbyn Addysg 16+ oed ynghyd â newidiadau eraill i bolisi cludiant yr Awdurdod. Rydym ni am asesu’r effaith a gaiff hyn ar Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac addysg Gymraeg yn gyffredinol yn y Sir.

Gofynnwn i rieni gwblhau’r holiaduron canlynol. Mae un ar gyfer y sector uwchradd a’r llall ar gyfer y cynradd.

Annogwch unrhyw deulu, ffrindiau a chymdogion sydd â phlant yn mynychu ysgolion Cymraeg y Sir i gyfranogi. Bydd pob ymateb yn cyfrif!

Diolch am eich cydweithrediad.

Holiadur Uwchradd
http://moodle.bridgend.gov.uk/y…/mod/questionnaire/view.php…

Holiadur Cynradd:

http://moodle.bridgend.gov.uk/y…/mod/questionnaire/view.php…

Rhag

Swper Nadolig Menter Bro Ogwr

Swper Nadolig Menter Bro Ogwr

Nos Iau 4ydd o Ragfyr 2014                                                                         Bwyty’r Tymhorau, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr,                                             7.15yh am 7.30yh

Pryd o fwyd 3 chwrs: £15.95

RHAID TALU BLAENDAL O £5 ERBYN: 21.11.14                                  

Cysylltwch a Menter Bro ogwr neu ewch i Siop Yr Hen Bont ym           Mhen-y-bont i archebu eich lle.                                                             01656 732200                                                               menter@broogwr.org

Swper Nadolig 2014poster cymraeg bwydlen  nadolig 2014 (2)

Chwarae i Ddysgu

Chwarae i Ddysgu

Diwrnod hwyl llyfrgelloedd a hamdden i blant 3-7 oed a’u rhieni.

Amser stori yn y llyfrgell wedi’i ddilyn gan hwyl a sbri yn y neuadd chwaraeon.

Dydd Sadwrn 25 Hydref yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr

9.30 – 10.30yb – Sesiwn yn Gymraeg

Dewch draw ar y diwrnod, does dim angen cadw lle ymlaen llaw, ac mae’r sesiwn am ddim.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0300 012 1223 option 1

64525 BCB Learn to play FINAL (WEB) p2

Diwrnod Shwmae Su’mae!

Hydref 15, 2014 fydd yr ail tro inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae! gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae? yn gyfle inni atgyfnerthu a
dathlu’r Gymraeg a’r ffyrdd yr ydym yn cyfarch ein gilydd yn
Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’n gyfle hefyd i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ledled Cymru.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb a gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.

Am ddathlu’r diwrnod? Dewch i ddweud Shwmae! i rai o Fudiadau Cymraeg yr ardal ym Mhen-y-bont a Phorthcawl. Byddwn ni a Mr Urdd yn eich cyfarch yn y lleoliadau isod:

Halo, Pen-y-bont: 09:30 – 11:00
Llyfrgell Pen-y-bont: 10:00 – 11:00
Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr: 11:30 – 13:00
Stryd John, Porthcawl: 14:00 – 16:00

Bydd cyfle hefyd i chi ennill gwobr yn Siop yr Hen Bont ar y dydd! Bydd Menter Bro Ogwr yn rhoi gwobr i’r hanner canfed person sy’n dod i mewn i’r siop ac yn dechrau’r sgwrs trwy ddweud Shwmae!

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr:
01656 732200 / menter@broogwr.org

Diwrnod Shwmae Su'mae! 2014.jpg Cymraeg

Cymdeithas Hanes Bro Ogwr

Sgyrsiau am hanes a diwylliant Cymreig i ddysgwyr Cymraeg.

13.10.14 – Iolo Morgannwg gyda Mary Ann Constantine                 

10.11.14 – Hanes y Ddihangfa Fawr o Wersyll Carcharorion Rhyfel       Fferm yr Ynys gyda Mike Clubb

7:30yh, Tŷ Risha, Pen-Y-Cae, Pen-y-bont, CF32 9SN                                     Cost: £2 neu am ddim i aelodau

Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Amanda Evans menter@menterbroogwr.org                                                                             01656 732 200

A4_Poster – Medi i Dachwedd 14 _3_