Archifau Categori: Heb Gategori

Holiadur Gweithgareddau a Digwyddiadau Cymraeg i Oedolion 2019-20

Mae Menter Bro Ogwr eisiau casglu gwybodaeth gan oedolion y sir am ba fath o ddigwyddiadau a gweithgareddau hoffem nhw fynychu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y wybodaeth ar y ffurflen yma’n cael ei ddefnyddio er mwyn mesur y galw ar ba gyfleoedd i ddarparu yn y dyfodol agos. Byddem yn ddiolchgar iawn pe bai chi’n gallu cwblhau’r holiadur ar-lein isod a’u rhannu gyda’ch cysylltiadau os gwelwch yn dda.

Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr

Yn ystod wythnos Sulgwyn, 29 Mai – 3 Mehefin bydd Sir Pen y Bont ar Ogwr yn croesawu Cymru gyfan, wrth i Eisteddfod yr Urdd agor ei drysau ar faes Coleg Pencoed I ryw 90,000 o ymwelwyr dros chwe diwrnod, ac rydym yn awyddus i roi’r croeso cynhesaf posib iddynt!

I’r perwyl hwn, rydym yn galw am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, sy’n angerddol am ein hardal i ymuno â Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, a derbyn hyfforddiant yn barod i gynnig croeso a gwasanaeth gwybodaeth leol i ymwelwyr yr Eisteddfod.

Grŵp o ryw ugain o wirfoddolwyr yw Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, sy’n rhannu cariad am yr ardal ac â diddordeb mewn parhau i ddysgu a rhannu gwybodaeth am ddiwylliant, bywyd gwyllt, hanes, celf, a bwyd y sir. Maent yn ymgysylltu ag ymwelwyr ein hardal mewn nifer o wahanol ffyrdd, megis cyfarfod a chyfarch mewn digwyddiadau, cefnogi grwpiau i lunio eu hymweliad, ysgrifennu blogiau, rhannu gwybodaeth leol gyda theuluoedd ac yn gyffredinol yn gwneud yr hyn a allant i godi proffil y rhanbarth. Mae bod yn Llysgennad yn lawer o hwyl ac yn werth chweil. Dyma beth sydd gan ein Llysgenhadon presennol i ddweud:

“Mond gair bach i ddweud pa mor werthfawr oedd y profiad o hyfforddi fel llysgennad. Nid yn unig ydym ni wedi dysgu cymaint am yr ardal, ond rydym hefyd wedi datblygu cymuned fach wirioneddol gref o bobl sydd â nod cyffredin, sef i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo ein darn arbennig ni o Gymru “

“Mae ymwneud a’r rhaglen Llysgenhadon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddysgu am ein treftadaeth, cerddoriaeth a llên gwerin leol, yn ogystal â mwynhau teithiau gwych i rai o’r atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw, ac ychydig o gyfrinachau’r ardal hefyd.”

Yn ogystal, mae’r manteision o fod yn llysgennad yn cynnwys:

  • Mynediad i gyfres o hyfforddiant a gwibdeithiau pleserus
  • hunan ddatblygiad
  • Rhwydweithio gyda phobl eraill o’r un anian, a busnesau twristiaeth yr ardal
  • Ymdeimlad o gyfrannu at y gymuned a’r rhanbarth yn gyffredinol, a’r boddhad a ddaw gyda hynny.
  • Mynediad am ddim i ddigwyddiadau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau
  • Tystysgrif a cherdyn adnabod sy’n eich cydnabod fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr.

Mae hyfforddiant yn rhad ac am ddim ac yn ymrwymiad amser o ddim ond dau ddiwrnod. Bydd y dyddiau yma ar sail gweithdy yn dysgu am drysorau’r rhanbarth. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am hanes, llên gwerin, treftadaeth, diwylliant a hyfrydwch naturiol sir Pen y Bont ar Ogwr.

Bydd angen i chi fynychu dau o’r sesiynau hyfforddiant, sydd wedi eu nodi uchod, a bod ar gael i wirfoddoli am o leiaf un sesiwn hanner diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos y Sulgwyn. Fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr, cewch wedyn gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli wrth iddynt godi drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Llysgenhadon sy’n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn derbyn mynediad am ddim i’r maes yn ystod eu diwrnod gwirfoddoli, ac yn gallu mwynhau perfformiadau rhai o’r 15,000 o blant dan 25 a fydd yn cystadlu am y brig mewn cystadlaethau diwylliannol megis canu, dawnsio, llefaru a pherfformio. Bydd o leiaf dau Lysgennad yn gwirfoddoli ar bob un diwrnod o’r Eisteddfod.

Rydym yn edrych yn benodol am unigolion sy’n gallu sgwrsio yn y Gymraeg, a bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda deunyddiau cefnogi yn cael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Os oes gyda chi ddiddordeb neu unrhyw gwestiynnau, cysylltwch ag Angharad ar angharad@angharadwynne.com / 07786256722.

YDYCH CHI’N SIARAD CYMRAEG? YDYCH CHI ERIOED WEDI GWRANDO I RADIO CYMRU?

logo

Rydym yn gwmni ymchwil o Gaerdydd o’r enw Strategic Research & Insight. Rydym wedi cael ei comisiynu gan BBC Cymru i recriwtio siaradwyr Cymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru i gymryd rhan mewn ymchwil ar orsaf newydd dros dro mae Radio Cymru yn treialu.
Rydym yn cysylltu â nifer o gwmnïau a sefydliadau yn yr ardal i weld a fyddent yn gallu helpu ni drwy anfon arolwg byr iawn ar-lein i siaradwyr Cymraeg o fewn eu cwmni neu sefydliad.
Am fwy o wybodaeth, ac i gwblhau’r arolwg byr ar-lein, cliciwch ar y ddolen ganlynol: www.panelradio.co.uk
Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth. Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach am yr ymchwil, cysylltwch â Mike Davies yn Strategic Research and Insight drwy e-bost mike@strategic-research.co.uk
Mae rhagor o wybodaeth am yr orsaf newydd ar gael yma:
Arbrawf gorsaf dros dro Radio Cymru Mwy i ddechrau, BBC Cymru Fyw, 02-Awst-2016
BBC yn enwi gwasanaeth radio newydd dros dro, Golwg 360, 02-Awst-2016
Pop-up digital station BBC Radio Cymru Mwy to launch, BBC News, 02-August-2016

HYSBYSEB SWYDD

Image-1

Swydd: Gweithiwr Siop                                                                                                             

Graddfa Gyflog: Cyflog Cenedlaethol gyda’r cyfle i ennill bonws                                        

Oriau:  Hyd at 15awr yr wythnos.

Mae Menter Iaith Bro Ogwr yn chwilio am Weithiwr Siop, i weithio yn Siop Yr Hen Bont ar Ogwr. Dyma yw’r unig siop Cymraeg ym Mhen-y-bont, sy’n cynnig llyfrau, cardiau ac anrhegion Cymraeg.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig, hyderus, sy’n brydlon a threfnus, yn gallu rheoli arian ac yn medru siarad Cymraeg. Bydd profiad o weithio mewn siop yn ddymunol ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei rhoi.

Bydd disgwyl i’r gweithiwr siop gynnal safonau manwerthu uchel gan helpu cynyddu’r gwerthiant a’r elw, deall gofynion y cwsmeriaid a chyfrannu tuag at ymwybyddiaeth iaith o fewn ein Sir gyda dealltwriaeth o waith Menter Bro Ogwr.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol â phobl, cydweithwyr a’r gymuned, a phrofiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn hapus i gynnig cytundeb rhannu swydd/oriau gwaith sy’n gyfleus i’r ymgeisydd llwyddiannus. Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus weithio diwrnodau llawn 9-5yp ond rydym yn hapus i drafod y nifer o ddiwrnodau y byddwch yn gweithio’n wythnosol.

Lleolir y swydd yn Siop Yr Hen Bont, 2, Yr Hen Bont, Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyddiad cau’r swydd uchod yw dydd Gwener, Awst 23 2016.                                                    

Am ragor o fanylion ac i ymgeisio am y swydd uchod, cysylltwch ag Amanda Jaine Evans, Menter Bro Ogwr, Tŷ’r Ysgol, Pen yr Ysgol, Maesteg, Pen y Bont ar Ogwr, CF34 9YE.        Ffôn: (01656 732200) e-bost: menter@broogwr.org

Cystadleuaeth lliwio Gŵyl Dewi Sainsbury’s!

Llongyfarchiadau Mawr i Emma Curtis, Lacey Jones o Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr a Freya Rose Brunt o Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr am ddod yn 1af, 2il a 3ydd yng nghystadleuaeth lliwio Gŵyl Dewi Sainsbury’s!
Roedd Non Evans MBE yn hapus iawn i weld y

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

dalent sydd gyda ni ym Mro Ogwr!

Cyfarfod Blynyddol a Swper Nadolig Menter Bro Ogwr

Cyfarfod Blynyddol a Swper Nadolig 2015

Dewch i ddathlu’r Nadolig mewn steil gyda phryd o fwyd 3 chwrs yn y Farmers yn Notais! Cyfle gwych i gwrdd a chymdeithasu â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eraill o’r sir.

£18.95 am bryd o fwyd 3 chwrs.

Bydd y swper yn cychwyn am 7:45pm yn syth ar ôl ein cyfarfod blynyddol.

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly’r cyntaf i’r felin caiff falu! Ni fyddwn yn derbyn unrhyw fwciadau ar ôl y  25ain o Dachwedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bwcio cyn y dyddiad yma er mwyn osgoi cael eich siomi.

Bydd cyfarfod blynyddol Menter Bro Ogwr yn cael ei gynnal cyn y swper am 7:00pm. Mae croeso i bawb ddod i glywed am waith y Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg? Hoffech chi chwarae rhan yn natblygiadau’r Gymraeg yn sir Pen-y-bont ar Ogwr? ‘Dyn ni eich angen chi! Mae Menter Bro Ogwr yn edrych am aelodau newydd ar gyfer ein pwyllgor rheoli ac mae’r cyfarfod yma’n gyfle i chi gael eich ethol. Ymunwch â ni er mwyn gweld y Gymraeg yn ffynnu ym Mro Ogwr!

Croeso i bawb!

Gŵyl Cerdd Dant yn dod i Borthcawl

Gŵyl Cerdd Dant 2015

Mae Gŵyl Undydd Fwyaf Ewrop yn dod i Borthcawl!

Gŵyl Cerdd Dant yw gŵyl gystadleuol undydd fwyaf Ewrop ac mae’n rhoi llwyfan i hoff draddodiadau gwerinol Cymru bob blwyddyn.

Nid yn unig y cawn fwynhau unawdau, deuawdau a chorau cerdd dant, ond bydd cyfle hefyd i glywed unawdau a phartïon llefaru; rhywfaint o ganu gwerin; unawdau a deuawdau ar y delyn, a digon o dwrw wrth i’r dawnswyr gwerin a’r clocswyr
lenwi’r lle. Ymunwch yn yr hwyl a dewch i Bafiliwn y Grand ar
Ddydd Sadwrn 14eg o Dachwedd 2015!

Gŵyl Cerdd Dant 2015 2