Swyddog Ieuenctid CYFLOG £16,000 – £20,000 LLEOLIAD: Pen-y-bont ar Ogwr
Mae hon yn swydd hollbwysig yn y Sir ac mae angen unigolyn egniol, hyderus, brwdfrydig ac awyddus i ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo, cydgysylltu a darparu rhaglenni gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc dros 11 oed.
Bydd eich cylch gwaith amrywiol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfleuster ‘galw i mewn’, cefnogaeth un i un a sesiynau gwaith grŵp gan ddatblygu a chefnogi’r rhaglenni sy’n bodoli’n barod gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr cymunedau’r fwrdeistref.
Byddai chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid yn ddelfrydol, ond ddim yn hanfodol. Bydd profiad o weithio gyda phobl ifanc yn fanteisiol i chi ddatblygu strategaethau ac i ddelio’n effeithiol gyda’u hanghenion a’u pryderon.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a phobl ifanc, cydweithwyr a’r gymuned, profiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol, ynghyd a thrwydded yrru gyfredol a defnydd o gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fanylion pellach ynglŷn â’r swydd uchod, cysylltwch ag Amanda Evans ar 01656 732200 neu menter@broogwr.org
Dyddiad cau: Dydd Llun, 6ed o Hydref 2014 am hanner dydd.



