Diwrnod Shwmae Su’mae!

Hydref 15, 2014 fydd yr ail tro inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae! gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae? yn gyfle inni atgyfnerthu a
dathlu’r Gymraeg a’r ffyrdd yr ydym yn cyfarch ein gilydd yn
Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’n gyfle hefyd i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ledled Cymru.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb a gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.

Am ddathlu’r diwrnod? Dewch i ddweud Shwmae! i rai o Fudiadau Cymraeg yr ardal ym Mhen-y-bont a Phorthcawl. Byddwn ni a Mr Urdd yn eich cyfarch yn y lleoliadau isod:

Halo, Pen-y-bont: 09:30 – 11:00
Llyfrgell Pen-y-bont: 10:00 – 11:00
Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr: 11:30 – 13:00
Stryd John, Porthcawl: 14:00 – 16:00

Bydd cyfle hefyd i chi ennill gwobr yn Siop yr Hen Bont ar y dydd! Bydd Menter Bro Ogwr yn rhoi gwobr i’r hanner canfed person sy’n dod i mewn i’r siop ac yn dechrau’r sgwrs trwy ddweud Shwmae!

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr:
01656 732200 / menter@broogwr.org

Diwrnod Shwmae Su'mae! 2014.jpg Cymraeg