Am 7pm, nos Fawrth 24 Mehefin yng Nghlwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr  bydd cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod y gwahoddiad sydd wedi ei estyn i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymweld â Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017.

Bydd Cynghorau Lleol, Cyrff Cyhoeddus, Cymdeithasau a Mudiadau Gwirfoddol a’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod i drafod cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn 2017.

Yn annerch yn y cyfarfod bydd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau a chynrychiolydd o Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Hwn fydd y cyswllt cyntaf rhwng Adran yr Eisteddfod a thrigolion yr ardal ac yn y cyfarfod, os bydd gwahoddiad ffurfiol yn cael ei estyn i’r Eisteddfod, bydd yr Urdd yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a gwybodaeth yn cael ei rannu am ddyddiadau’r pwyllgorau testunau.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, “Mae gwirfoddolwyr yr Urdd a’r Cyngor eisoes wedi datgan eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r Ŵyl ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod â thrigolion yr ardal gyda’r gobaith o ddod â’n Prifwyl i’r ardal yn 2017.”

Ychwanegodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, “Bwriad y cyfarfod hwn fydd derbyn sêl bendith yr ardal – y cymdeithasau, mudiadau, sefydliadau a’r trigolion – i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r Sir.  Nid ydym wedi ymweld gyda’r ardal ers Eisteddfod yr Urdd Maesteg yn 1979, a byddai’n braf iawn cynnal ein Eisteddfod Genedlaethol yn y rhan yma o Gymru unwaith eto.”Logo'r_Urdd