Archifau Categori: Heb Gategori
Swydd: Prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Siaradwr Cymraeg
Manylion y swydd
Teitl y swydd: Prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Siaradwr Cymraeg
Cyfeirnod y swydd: 06306
Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2015
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23/01/2015
Categori’r swydd/math o swydd: Swyddi Gwag (Heblaw Ysgolion)
Disgrifiad swydd: Hysbyseb Swydd
Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Prentis Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Dros dro am hyd at flwyddyn.
GBP 13,321 – GBP 13,725
Oes diddordeb gennych mewn gyrfa ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid?
Ydych chi am gael profiad gwaith tra’n cwblhau cymhwyster ac ennill cyflog?
Byddwch yn dysgu sut i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau dros y ffon, dros e-bost neu wyneb yn wyneb, yn Gymraeg a Saesneg, gan ddatrys yr ymholiad ar y cyswllt cyntaf lle bo’n bosibl. Yn ystod y flwyddyn byddwch hefyd yn astudio yn y coleg ac yn y gweithle er mwyn ennill eich cymwysterau gwasanaethau i gwsmer.
Mae hon yn rol amrywiol a heriol lle y byddwch yn dysgu sut i ddod yn eiriolwr i’r cwsmer gan gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Siarter Gwasanaethau i Gwsmeriaid.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 23 Ionawr, 2015
I ymgeisio am y swydd hon, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: http://www1.bridgend.gov.uk/cy.aspx
Cymdeithas Hanes Bro Ogwr
Sgyrsiau am hanes a diwylliant Cymreig i ddysgwyr Cymraeg.
12.01.15 – Hanes ac Atgofion Teulu (Coety, Glynogwr, Maesteg) gyda Dr Elin Jones
09.02.15 – Heini Gruffydd – Pwnc i’w gadarnhau
09.03.15 – Enwau Tai a Strydoedd gyda Cennard Davies
7:30yh, Clwb Criced, Bryn Road, Tondu, Pen-y-bont, CF32 9EB
Cost: £2 neu am ddim i aelodau
Am ragor o fanylion, cysylltwch â Pat Jones-Jenkins, 01656 741622, patjonesjenkins@googlemail.com
Penwythnos Cymraeg i’r Teulu
Swper Santes Dwynwen
Nos Iau, Ionawr 29ain 2015, Bwyty’r Tymhorau, Coleg Penybont.
Pryd o fwyd tri chwrs a choffi – £14.95 (Rhaid archebu o flaen llaw – dyddiad cau dydd Gwener Ionawr 16eg)
Am ragor o fanylion cysylltwch â Menter Bro Ogwr neu ewch i Siop Yr Hen Bont ym Mhen-y-bont i archebu eich lle.
menter@broogwr.org
01656 732200
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
Parti Nadolig Ti a Fi i’r Teulu
Chwarae i Ddysgu
Sesiynau hwyl llyfrgell a hamdden i blant 3-7 oed a’u rhieni.
Bob dydd Sadwrn 15/11/14 – 6/12/14 yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr.
09:30 – 10:30
Pris: £3.80 y sesiwn
Mae hwn yn gyfle gwych i rieni a phlant ddysgu sut i droi straeon yn chwarae a dysgu’r sgiliau craidd i blant ar gyfer bywyd o chwaraeon a gweithgareddau.
Taith Nadolig
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan Nos Iau 11 Rhagfyr 2014, Gadael: Holiday Inn Sarn 6:00yh, Pris: £10.50
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda Menter Bro Ogwr yn ddigwyddiad Nadolig Sain Ffagan—Canu yn y Capel. Caneuon Nadoligaidd traddodiadol a chyfoes yng Nghapel hynafol Penrhiw o dan arweiniant Alun Guy a’r organydd Leighton Sault-Jones. Bydd cyfle i gael mins pei a gwin cynnes y gaeaf hanner awr o flaen llaw.
Dyddiad Cau: 05 Rhagfyr 2014!
ARCHEBWCH EICH LLE NAWR!
FFONIWCH MENTER BRO OGWR NEU EWCH I
SIOP YR HEN BONT, PEN-Y-BONT.
menter@broogwr.org
01656 732200
.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Bro Ogwr
04.12.14, Bwyty’r Tymhorau, Coleg Pen y Bont ar Ogwr, 6:30yh-7:30yh
Dewch i glywed am waith y Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf. Ydych chi’n berson brwdfrydig sydd eisiau cael mewnbwn yn natblygiadau’r iaith Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Rydyn ni’n edrych am aelodau newydd ar gyfer pwyllgor rheoli’r Fenter. Dyma gyfle i chi gael eich ethol. Ymunwch â ni er mwyn gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym Mro Ogwr.
Cysylltwch â Menter Bro Ogwr am ragor o fanylion:
01656 732 200 menter@broogwr.org