Swydd: Prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Siaradwr Cymraeg

Manylion y swydd

Teitl y swydd: Prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Siaradwr Cymraeg

Cyfeirnod y swydd: 06306

Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2015

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23/01/2015

Categori’r swydd/math o swydd: Swyddi Gwag (Heblaw Ysgolion)

Disgrifiad swydd: Hysbyseb Swydd

Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Prentis Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Dros dro am hyd at flwyddyn.

GBP 13,321 – GBP 13,725

Oes diddordeb gennych mewn gyrfa ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid?

Ydych chi am gael profiad gwaith tra’n cwblhau cymhwyster ac ennill cyflog?

Byddwch yn dysgu sut i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau dros y ffon, dros e-bost neu wyneb yn wyneb, yn Gymraeg a Saesneg, gan ddatrys yr ymholiad ar y cyswllt cyntaf lle bo’n bosibl.   Yn ystod y flwyddyn byddwch hefyd yn astudio yn y coleg ac yn y gweithle er mwyn ennill eich cymwysterau gwasanaethau i gwsmer.

Mae hon yn rol amrywiol a heriol lle y byddwch yn dysgu sut i ddod yn eiriolwr i’r cwsmer gan gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Siarter Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 23 Ionawr, 2015

I ymgeisio am y swydd hon, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: http://www1.bridgend.gov.uk/cy.aspx

BCBC