Archifau Categori: Newyddion

Cyfarfod Blynyddol

Dewch i glywed am waith y Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf ar nos Fercher 13 Tachwedd 2013 am 7yh yn Ngwesty Maenor Cwrt Colman, Pen-y-Fai.
Cyfarfod Blynyddol
Ydych chi’n berson brwdfrydig sydd eisiau cael mewnbwn yn natblygiadau’r iaith Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Rydyn ni’n edrych am aelodau newydd ar gyfer pwyllgor rheoli’r Fenter. Dyma gyfle i chi gael eich ethol. Ymunwch â ni er mwyn gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym Mro Ogwr.

Bydd criw ohonom ni’n aros ar ôl y cyfarfod am bryd o fwyd yn y bwyty Indiaidd, am 8yh. Rhowch wybod os ydych chi eisiau i ni archebu lle i chi. Bydd disgwyl i chi ddewis o’r fwydlen a thalu am y bwyd ar y noson.

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr am ragor o fanylion:
01656 732 200
menter@broogwr.org

20ed Pen-blwydd

Mae Menter Bro Ogwr yn dathlu ein Pen-blwydd yn 20ain oed! Dewch i ddathlu gyda ni yn ein digwyddiadau!!!

20 Pen-blwydd
Sali Mali a’i Ffrindiau
Dewch am dro gyda Sali Mali! Gwisgwch fel Sali Mali neu Jac y Jwc er mwyn mynd ar daith o amgylch tref Pen-y-bont a cheisio ennill record byd am y nifer fwyaf o gymeriadau Sali Mali mewn un lle!!! Byddwn yn cwrdd tu allan i Siop yr Hen Bont ar yr hen bont a bydd y daith yn dechrau am 2yp. Digwyddiad am ddim ond rhaid bwcio o flaen llaw.

Parti Sblish, Sblash, Sblosh!!!
Hwyl i’r teulu cyfan! Dewch am barti sblish, sblash, sblosh gyda theganau gwynt ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Pen-y-bont. Bydd y sesiwn yma’n breifat ac ar gyfer Menter Bro Ogwr yn unig. RHAID BWCIO O FLAEN LLAW. Dim ond lle i 40. Plant £1.50 / £2.50 oedolion
Parti Pen-blwydd Menter Bro Ogwr!!!
Dewch i ddathlu ein Pen-blwydd yn 20 oed! Gwisgwch rywbeth porffor neu felyn a dewch i ddathlu gyda ni yn Ystafell Rafters, Clwb Rygbi Caeau’r Bragdy, Pen-y-bont 7:30yh tan 11:30yh
Siaradwr Gwadd: Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a pherfformiadau byw gan
ALYS WILLIAMS o ‘THE VOICE’ & GILDAS
Croeso mawr i bawb – Mynediad am ddim!
Am ragor o fanylion neu i fwcio lle, cysylltwch â Menter Bro Ogwr: 01656 732 200 menter@broogwr.org