04.12.14, Bwyty’r Tymhorau, Coleg Pen y Bont ar Ogwr, 6:30yh-7:30yh
Dewch i glywed am waith y Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf. Ydych chi’n berson brwdfrydig sydd eisiau cael mewnbwn yn natblygiadau’r iaith Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Rydyn ni’n edrych am aelodau newydd ar gyfer pwyllgor rheoli’r Fenter. Dyma gyfle i chi gael eich ethol. Ymunwch â ni er mwyn gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym Mro Ogwr.
Cysylltwch â Menter Bro Ogwr am ragor o fanylion:
01656 732 200 menter@broogwr.org