Mae’r gyfres wyddonol Corff Cymru yn dychwelyd i S4C.
Mae’r tîm cynhyrchu yn chwilio am deulu o siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan yn y gyfres newydd sy’n canolbwyntio ar y wyddoniaeth tu ôl i’r camau pwysig sy’n cymryd lle ar hyd ein hoes: o blentyndod i oedolaeth.
Da ni’n edrych am 3 cenhedlaeth o fewn teulu (h.y. plant, rhieni a nain a thaid) fydd yn hapus i gael eu ffilmio ar gyfer y rhaglen ac ymddangos ar S4C.