HYSBYSEB SWYDD

HYSBYSEB SWYDD

Cyflogwr: Menter Bro Ogwr
Cyflog: £16,000 – £20,000
Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad Cau: 19/06/2015
Termau’r Swydd: Tymor Penodol
Oriau: Llawn amser

Disgrifiad:

Mae Menter Bro Ogwr yn chwilio am Swyddog Ieuenctid i ddarparu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae hon yn swydd hollbwysig yn y Sir ac mae angen unigolyn hyderus, brwdfrydig ac awyddus i ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo, cydgysylltu a darparu rhaglenni gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc dros 11 oed.

Bydd eich cylch gwaith amrywiol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfleuster ‘galw i mewn’, cefnogaeth un i un a sesiynau gwaith grŵp gan ddatblygu a chefnogi’r rhaglenni sy’n bodoli’n barod gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr cymunedau’r fwrdeistref.

Byddai chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid yn ddelfrydol, ond ddim yn hanfodol. Bydd profiad o weithio gyda phobl ifanc yn fanteisiol i chi ddatblygu strategaethau ac i ddelio’n effeithiol gyda’u hanghenion a’u pryderon. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a phobl ifanc, cydweithwyr a’r gymuned, profiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol, ynghyd a thrwydded yrru gyfredol a defnydd o gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni profion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Sut i wneud cais
• Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 19eg o Fehefin 2015 am 5yh.

Am fanylion pellach ynglŷn â’r swydd uchod, cysylltwch ag Amanda Evans ar 01656 732200 neu ebostiwch menter@broogwr.org

• Cyfeiriad y Cwmni:
Menter Bro Ogwr
Ty’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg, CF34 9YE

• Gwefan: Menter Bro Ogwr

comma