Llwyddiant i 20 o fudiadau ledled Cymru sydd yn derbyn grantiau, a godwyd fel rhan o Ras yr Iaith 2018, i’w cefnogi i hybu’r iaith Gymraeg yn y gymuned.
Hoffai Menter Bro Ogwr longyfarch Cylch Meithrin y Ferch o’r Sgêr sydd wedi llwyddo derbyn grant Ras yr Iaith eleni!
Mae trefnwyr Ras yr Iaith, Rhedadeg cyf a Mentrau Iaith Cymru, yn falch o allu darparu grantiau hyd at £750 i fudiadau a sefydliadau lleol, yn dilyn llwyddiant trydedd Ras yr Iaith a gynhaliwyd rhwng 4 – 6 Gorffennaf 2018 a gododd dros £7,500 o elw tuag at yr achos.
Ymwelodd Ras yr Iaith ȃ 15 tref a phentref rhwng Wrecsam a Chaerffili, gyda Baton yr Iaith yn uno miloedd o redwyr ar draws y wlad. Bu busnesau, sefydliadau, ysgolion ac unigolion yn rhoi nawdd o £50 i noddi cymal o’r Ras. Yr elw hwn sy’n cael ei rannu ar ffurf grantiau.
Bydd y Ras yn cael ei chynnal unwaith eto yn 2020, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a balchder yn y Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau ein cymunedau. Mae pwyslais hefyd ar ganolbwynt neges Ras yr Iaith 2018, sef y pwysigrwydd i wirfoddoli tuag at y Gymraeg, a oedd yn amod pwysig wrth ddyrannu’r ceisiadau eleni.
Bydd gwybodaeth am Ras yr Iaith 2020 yn cael ei rannu yn hwyrach eleni.
Dywed Dr Gwenno Ffrancon, Cyd-reolwr Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, un o’r mudiadau i gael derbyn grant eleni:
“Rydym yn hynod o falch o dderbyn y grant hwn gan Ras yr Iaith tuag at sefydlu clwb sgiliau Cymraeg i bobl ifanc yn Nhŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Roedd Tŷ’r Gwrhyd yn ganolbwynt i groesawu Ras yr Iaith i Bontardawe y llynedd, ac fe fydd y grant yn sicrhau bod y bwrlwm a’r brwdfrydedd dros yr iaith a grewyd gan ymweliad Ras yr Iaith i Gwmtawe yn parhau.”