Panto Draw Dros y Don

Panto Martyn Geraint yn dathlu 10 mlynedd ac ar ei ffordd i Bafiliwn y Grand, Porthcawl.

Oes fyth fuodd Cymro wedi’i eni ar gyfer panto, yna Martyn Geraint yw hwnnw.
Draw Dros y Don
Eleni bydd Martyn Geraint yn dathlu penblwydd ei bantomeim blynyddol yn 10 mlwydd oed. Mae Draw Dros y Don, sydd wedi’i ysgrifennu gan Martyn, yn ddehongliad i’r Gymraeg o stori boblogaidd Robinson Crusoe , a fydd yn cychwyn teithio ar Dachwedd 13, gan ymweld â 14 lleoliad drwy’r wlad. Yn ymuno gyda Martyn ar y llwyfan eleni, fydd yr actor Hywel Emrys, a tri wyneb newydd i’r theatre Gymreig – Ffion Glyn, Sion Emyr and Sioned Besent. Mae’r cynhyrchiad wedi’i gyfarwyddo gan Sara Lewis o Theatr na NÒg

Roedd pantomeim cyntaf Martyn Geraint, “Martyn, Eddie a’r Trysor Coll”, yn rhan o ymgyrch gan Fwrdd yr Iaith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn rhannau penodol o Gymru. Cafodd Martyn ei wahodd i lwyfannu sioe yn Rhydaman dros ddwy noson. Deng mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r pantomeim blynyddol bellach yn 46 sioe, mewn 14 wahanol leoliad dros Gymru gyfan.

Medd Martyn: “ Pan wnes i ddechre teithio’r pantomeim fel rhan o fy musnes newydd, fe wnes i golled ariannol. Roedd hi’n gyfnod anodd, gyda dim i syrthio nôl arno, ar ôl i fi adael fy swydd llawn amser fel cyflwynydd plant gyda S4C ar ôl 14 mlynedd. Diolch byth, fe wnaeth Geoff Cripps, sy’n ddysgwr ac sy’n Gyfarwyddwr Artistic Theatrau Rhondda Cynon Taf, ddod i weld y sioe , a’i fwynhau, ac fe wnaeth e’ fy annog i gario ‘mlaen i ddatblygu fy musnes mewn cydweithrediad â Theatrau RCT. Mae Geoff wedi bod yn gefn mawr i mi ers hynny.”

Beth fydd yn arbennig am y sioe eleni, Draw Dros y Don, i nodi’r 10 mlynedd?

“ Am y tro cyntaf, fe fydda’i yn chwarae rôl y Dame” medde Martyn yn chwerthin, “ ac yn rhyfedd iawn, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y sialens o chwarae un o gymeriadau mwyaf eiconig y panto traddodiadol! Ma gyda ni gast arbennig, gyda Hywel Emrys, dwi wedi gweithio gyda o’r blaen, yn chwarae rôl y dyn drwg, Capten Ffarti Barti. Yna tri o actorion sy’n wynebau eitha newydd i gynulleidfaoedd Cymraeg. Ar ôl bod yn y busnes ers peth amser nawr, mae wastad yn bleser gallu cynnig gwaith i actorion ifanc addawol, ac yna gweld eu gyrfaoedd yn datblygu – O ydy mae!!”

Mae’r daith wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddyddau Cymru.

Ffoniwch y theatre ar 01656815995, neu ewch i www.martyngeraint.com am fanylion ar sut i archebu tocynnau.