Alldaith Dug Caeredin Awst 2013

Llongyfarchiadau mawr i griw Dug Caeredin cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ar gyflawni eu halldaith Dug Caeredin, Lefel Efydd trwy Menter Bro Ogwr. Mae’r criw wedi bod ati’n gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i gyflawni’r hyfforddiant angenrheidiol cyn yr Alldaith, heb son am adolygu ar gyfer yr arholiadau TGAU ar yr un pryd!
ieu2013DSC06309091326
Dros y penwythnos, mi wnaeth y criw gerdded o ardal Marcroes, Bro Morgannwg yr holl ffordd i Bari, gan aros dros nos ym maes gwersylla Happy Jakes yn Flemingston. Cawson nhw groeso mawr yn Happy Jakes, gyda’r perchenogion yn gefnogol ac wrth eu boddau bod y bobl ifanc yn aros yno fel rhan o’r Alldaith.

Hoffwn i ddiolch yn fawr i Rhys Pinner, sydd wedi gwirfoddoli ei amser i hyfforddi’r criw cyntaf, ac sy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r criw nesaf yn barod!
Ieu2013DSC06313091323
Mae’n deg i ddweud roedd pawb yn edrych ymlaen at noson dda o gwsg nos Sadwrn! Ond, hoffwn i ddweud, ar ran y Fenter, ein bod ni’n hynod falch ohonoch chi gyd: Tomos Hopkins, Ben Isaac, Sam Turton, Catrin Haf Jones, Catrin Masson, a Ffion Masson….da iawn chi!

Siân Stephens