“Mae Mari Lwyd lawen, am ddod i’ch Tŷ Cornel a chanu yw’r diben, mi dybiaf.”
Dewch i ddathlu’r Hen Galan gyda Menter Bro Ogwr a’r Fari Lwyd!
Defod sy’n gysylltiedig â’r Flwyddyn Newydd yw’r Fari Lwyd ac mae ganddo gysylltiadau cryf â Phen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig pentref Llangynwyd, Maesteg. Bydd grŵp o ddynion yn cario penglog ceffyl wedi ei addurno o dy i dy, a chynnal gornest o ganu penillion neu bwnco er mwyn cael mynediad i’r tŷ.
Bydd y Fari Lwyd yn ymweld â Thafarn Tŷ Cornel, Llangynwyd ar Nos Lun 13eg o Ionawr 2014. Bydd y noson yn dechrau am 7:30 a bydd sesiwn werin yn dilyn, croeso i bawb wrando, canu neu chwarae! Dewch yn llu!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marged
01656 732200
marged@menterbroogwr.org