Archif Awdur: Golygydd Menter

Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro

Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro                                                         6.00yr hwyr nos Iau Hydref yr 16eg, 2014                                                                                       Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl                                                                                                      £5 i Oedolion  Plant am Ddim                                                        

Performiadau Gan: Aelwyd Porthcawl, Dawnswyr Penyfai Dancers, Cantorion Coeti Singers, Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Ysgol y Ferch o’r Sgêr

Tocynnau ar gael o Siop yr Hen Bont, ysgolion Cymraeg Bwrdeistref Sirol Penybont neu wrth y drws.

Poster Cyngerdd cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro

HYSBYSEB SWYDD

Swyddog Ieuenctid                                                                         CYFLOG £16,000 – £20,000                 LLEOLIAD: Pen-y-bont ar Ogwr

Mae hon yn swydd hollbwysig yn y Sir ac mae angen unigolyn egniol, hyderus, brwdfrydig ac awyddus i ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyrwyddo, cydgysylltu a darparu rhaglenni gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc dros 11 oed.

Bydd eich cylch gwaith amrywiol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfleuster ‘galw i mewn’, cefnogaeth un i un a sesiynau gwaith grŵp gan ddatblygu a chefnogi’r rhaglenni sy’n bodoli’n barod gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr cymunedau’r fwrdeistref.

Byddai chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid yn ddelfrydol, ond ddim yn hanfodol. Bydd profiad o weithio gyda phobl ifanc yn fanteisiol i chi ddatblygu strategaethau ac i ddelio’n effeithiol gyda’u hanghenion a’u pryderon.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a phobl ifanc, cydweithwyr a’r gymuned, profiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol, ynghyd a thrwydded yrru gyfredol a defnydd o gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Am fanylion pellach ynglŷn â’r swydd uchod, cysylltwch ag Amanda Evans ar 01656 732200 neu menter@broogwr.org

Dyddiad cau: Dydd Llun, 6ed o Hydref 2014 am hanner dydd.

comma

Gŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr 2014

Unwaith eto eleni, mae’r Fenter wedi trefnu digwyddiadau cyffrous ar gyfer pob oedran yn ystod Gŵyl Menter Bro Ogwr 2014. Mi fydd y gŵyl yn dechrau ar ddydd Iau, 26ain o Fehefin, ac yn para am wythnos cyfan. Felly, dewch i ymuno â ni:

26.06.13 – Cinio Diwedd Tymor, Tŷ Bryngarw, 7.30yh. Cyfle i ddathlu diwedd tymor!

29.06.14 – Cymanfa Ganu Cymraeg i Oedolion, Tabernacl Chapel, Fenton Place, Porthcawl, 3yh. Croeso mawr i bawb!

30.06.14 – Gemau Iard, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr, 12.30 – 1yp. Ymunwch â ni am ychydig o sbort a sbri yn ystod amser cinio…pwy fydd yr enillydd?

30.06.14 – Cwis Tafarn, Clwb y Gweithwyr, Stryd y Deml, Maesteg, 8:30yh. Cyfle i brofi eich gwybodaeth cyffredinol a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Croeso mawr i bawb!

02.07.14 – Gemau gyda’ch Cyfoedion! Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, 1 – 1.45yp. Ymunwch â ni am ychydig o sbort a sbri yn ystod amser cinio…pwy fydd yr enillydd?

02.07.14 – Trip Bowlio Deg! Bae Caerdydd, 3.30 – 8yh. Dewch i ymarfer eich sgiliau bowlio gyda’ch ffrindiau lawr y Bae! Blynyddoedd 7-9.

02.07.14 – Cystadleuaeth creu Castell Tywod i deuluoedd, 5 – 6yh, Traeth Coney, Porthcawl.

03.07.14 – Diwrnod Hwyl i’r Teulu, ar y cyd gyda Tyfu, Mudiad Meithrin ac Urdd Gobaith Cymru. Llyfrgell Llynfi, Maesteg, 10 – 1yp.

04.07.14 – Dawns Fasgiau i flwyddyn 6 ysgolion cynradd a blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Canolfan Richard Price, Llangeinor, 7-9yh.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Menter Bro Ogwr:

menter@menterbroogwr.org

01656 732 200

Poster Gŵyl MBO 2014