Mae Menter Bro Ogwr eisiau casglu gwybodaeth gan oedolion y sir am ba fath o ddigwyddiadau a gweithgareddau hoffem nhw fynychu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y wybodaeth ar y ffurflen yma’n cael ei ddefnyddio er mwyn mesur y galw ar ba gyfleoedd i ddarparu yn y dyfodol agos. Byddem yn ddiolchgar iawn pe bai chi’n gallu cwblhau’r holiadur ar-lein isod a’u rhannu gyda’ch cysylltiadau os gwelwch yn dda.
Archifau Categori: Oedolion
THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘BRECSHIT’ – sioe glybiau newydd sbon
Mae teulu Doris Morris wedi bod yn ffarmio yn Bryn-Cwd-yr-Arian ers canrifoedd, ond yn dilyn canlyniad y bleidlais Brexit mae Doris druan wedi gorfod arall-gyfeirio. Bellach mae hi’n rhedeg clinig therapiwtig a hafan I bobl gyda bob math o broblemau. A fydd rhedeg busnes o’r fath yn cadw’r blaidd o’r drws? A fydd Doris yn llwyddo I gadw ei hetifeddiaeth? A pa mor iachus ydy ‘colonic irrigation’ I rywun mewn gwirionedd? – Cawn weld!
Actorion: Iwan Charles, Manon Elis, Llyr Evans, Gwenno Elis Hodgkins
Cyfarwyddwr: John Glyn Owen
Ar daith Mai laf – Mehefin 2, 2018
GALWAD SGRIPT – DRAMA – ar gyfer S4C ac BBC Cymru
Cyfle cyffrous i hyfforddi sgriptwyr newydd. Rydym yn gwahodd sgripwyr ffilm fer i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddi It’s My Shout 2018. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae It’s My Shout wedi cynhyrchu ffilmiau o safon sydd wedi ennill ffilmiau Bafta Cymru, drwy gydweithio gyda’n partneriaid BBC Cymru Wales a S4C. Bydd y sgriptwyr yn cael eu datblygu a’u hyfforddi yn ystod yr haf. Mae It’s My Shout yn chwilio am ffilmiau cyffrous ac amrywiol, a hoffem annog sgriptwyr comedi i ymgeisio. Bydd BBC Writersroom ynghlwm trwy gydol y proses. Byddwn yn croesawu sgriptiau sy’n cynnwys cymeriadau ifanc (rhwng 12 – 24 oed) sy’n perthyn i amrywiol gefndiroedd economaidd a chymdeithasol, gan adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Mae amrywiaeth yn bwysig i ni, a byddem yn annog cast mawr os yw hynny yn briodol. Rydym yn edrych am waith creadigol a fydd yn cwmpasu ystod eang o genres a phynciau. Ond canllaw yn unig yw hyn, ac ni fyddem yn diystyru sgriptiau sydd ddim yn cynnwys y nodweddion hyn. Byddwn yn ffilmio ar hyd a lled Cymru; yn y gogledd, y gorllewin, y cymoedd, Caerdydd a Chasnewydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu mwynhau eu ffilmiau deng munud yn cael eu darlledu ar BBC Cymru Wales neu S4C; byddent hefyd yn ymddangos mewn noson gala ym mis Medi. Dyma gyfle gwych i unrhyw un unrhyw sydd ag angerdd i greu sgript wreiddiol a gweledol. Y dyddiau cau ar gyfer y ceisiadau yw Ebrill 27ain am hanner nos. Cynhelir yr amserlen ffilmio rhwng Mehefin ac Awst 2018.
I gyflwyno eich sgript, dilynwch y linc: https://form.jotformeu.com/73514690509359
Neu cerwch ar ein gwefan: www.itsmyshout.co.uk
It’s My Shout / BBC Cymru Wales / S4C: Ffilmiau byr – Haf 2018 – Galw am gyfarwyddwyr
Mae It’s My Shout yn chwilio am gyfarwyddwyr newydd i gyfarwyddo ffilmiau fydd yn ymddangos ar BBC Cymru Wales ac S4C yn ystod mis Hydref 2018.
Rydym yn chwilio am GYFARWYDDWYR sydd:
• â gwybodaeth a dealltwriaeth am brosesau creu ffilm
• yn gallu gweithio mewn tîm ac yn barod i ddatblygu gweledigaeth y tîm hwnnw
• yn gallu cyfathrebu gyda thîm cynhyrchu / ôl-gynhyrchu profiadol.
• yn gallu cyfathrebu gydag actorion mewn ymarferion ac ar set.
Os gewch chi gyfweliad, bydd angen i chi gynnig syniadau ar gyfer un o’r sgriptiau terfynol. Dyma gyfle arbennig i unrhyw un sydd ag angerdd i greu a chyfarwyddo.
Mae’n bwysig fod ymgeiswyr yn ymwybodol fod gwaith paratoi o flaen llaw, a bydd rhaid caniatau amser i gyfarwyddo dros gyfnod yr haf. Bydd y ffilmiau byr yn cael ei ddangos ar BBC Cymru Wales ac S4C gan ddibynnu ar iaith eich sgript. Byddwn yn cynnal dangosiad o’r gwaith ynghyd â noson gwobreuo yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd 8 Fedi.
Dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau yw dydd Gwener 27 Ebrill, 2018.
Anfonwch eich CV ac enghreifftiau o’ch gwaith (os yn berthnasol) drwy ddilyn y linc isod:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau mae croeso i chi e-bostio: info@itsmyshout.co.uk
Cwblhewch ein holiadur Gweithgareddau a Digwyddiadau Cymraeg!
HYSBYSEB SWYDD
Manylion y swydd Teitl y swydd: Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
Cyfeirnod y swydd: 08804
Dyddiad cyhoeddi: 15/3/2018
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28/3/18
Categori’r swydd/math o swydd: Swyddi Gwag (Heblaw Ysgolion)
Disgrifiad swydd: Hysbyseb Swydd Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol
Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
GBP 19,430 – GBP 20,138 y flwyddyn
37 awr yr wythnos
Fel aelod o’n tim Recriwtio a Chontractau byddwch yn ymgymryd a thasgau i gynorthwyo gweithdrefnau recriwtio, dechrau a gadael y cyngor drwy ddefnyddio system integredig adnoddau dynol/cyflogres. Byddwch hefyd yn gweinyddu proses gwirio cofnodion troseddol y Cyngor drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd hyn yn cynnwys tasgau o hysbysebu swydd wag hyd at gynnig penodi, amrywiadau contractau a therfyniadau.
A chithau’n weinyddwr cadarn a phrofiad o weithio mewn amgylchedd adnoddau dynol, bydd gennych sgiliau T.G. da a phrofiad blaenorol o ddefnyddio systemau swyddfa. A chithau’n gweithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, bydd gennych sgiliau cyfathrebu da, yn gallu gweithio mewn amgylchedd swyddfa cyflym ac yn gallu bodloni amrywiaeth o derfynau amser.
Mae’r gallu i sgwrsio a chwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad hanfodol; mae gwasanaethau cyfieithu ar gael ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig. Darperir hyfforddiant mewn Cymraeg busnes i’r rhai sy’n bodloni’r gofyniad hanfodol hwn.
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 28 Mawrth 2018 I ymgeisio am y swydd hon, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: https://jobs.bridgend.gov.uk/
07.03.18 – WEDI’I AILDREFNU OHERWYDD Y TYWYDD
Ydych chi eisiau help i ysgrifennu CV dwyieithog?
Mae’r gallu i siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn sgil sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr. Defnyddiwch eich sgiliau dwyieithog!
Mae Menter Bro Ogwr yn gallu helpu chi adeiladu CV dwyieithog. Os oes diddordeb gyda chi yn y gwasanaeth yma cysylltwch â ni heddiw ar y manylion isod:
menter@broogwr.org
01656 732 200
Mae gallu defnyddio iaith yn sgil defnyddiol – mae gen ti ddwy!