Archif Awdur: Golygydd Menter

Hysbyseb Swydd: Swyddog Hyfforddiant

Hysbyseb Swydd: Swyddog Hyfforddiant

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am berson trefnus, effeithiol a phrofiadol sydd â’r gallu i weithio i ddiwallu anghenion hyfforddiant y rhwydwaith o 23 Menter Iaith ar draws Cymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mi fydd y person delfrydol â phrofiad yn y maes hyfforddiant, yn hunan ddisgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.

Cyflog: £25,000 – £28,000 y flwyddyn

Oriau: 37 awr yr wythnos

Cytundeb: 14 mis, gyda phosibilrwydd o barhad

Lleoliad: Llanrwst, Pontypridd neu Llandeilo

Dyddiad cau: 2 Chwefror 2015

Dyddiad cyfweliadau: 9 Chwefror 2015

Cliciwch yma am ffurflen gais: Ffurflen Gais MIC

Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd: Disgrifiad Swydd Swyddog Hyfforddiant MIC

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Emily Cole: emily@mentrauiaith.org 01443 493715

Cyllidir y Swydd gan Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith

MIC

Swydd: Prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Siaradwr Cymraeg

Manylion y swydd

Teitl y swydd: Prentisiaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Siaradwr Cymraeg

Cyfeirnod y swydd: 06306

Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2015

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23/01/2015

Categori’r swydd/math o swydd: Swyddi Gwag (Heblaw Ysgolion)

Disgrifiad swydd: Hysbyseb Swydd

Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Prentis Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Dros dro am hyd at flwyddyn.

GBP 13,321 – GBP 13,725

Oes diddordeb gennych mewn gyrfa ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid?

Ydych chi am gael profiad gwaith tra’n cwblhau cymhwyster ac ennill cyflog?

Byddwch yn dysgu sut i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau dros y ffon, dros e-bost neu wyneb yn wyneb, yn Gymraeg a Saesneg, gan ddatrys yr ymholiad ar y cyswllt cyntaf lle bo’n bosibl.   Yn ystod y flwyddyn byddwch hefyd yn astudio yn y coleg ac yn y gweithle er mwyn ennill eich cymwysterau gwasanaethau i gwsmer.

Mae hon yn rol amrywiol a heriol lle y byddwch yn dysgu sut i ddod yn eiriolwr i’r cwsmer gan gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Siarter Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 23 Ionawr, 2015

I ymgeisio am y swydd hon, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: http://www1.bridgend.gov.uk/cy.aspx

BCBC

Cymdeithas Hanes Bro Ogwr

Sgyrsiau am hanes a diwylliant Cymreig i ddysgwyr Cymraeg.

12.01.15 – Hanes ac Atgofion Teulu (Coety, Glynogwr, Maesteg) gyda Dr Elin Jones

09.02.15 – Heini Gruffydd – Pwnc i’w gadarnhau

09.03.15 – Enwau Tai a Strydoedd gyda Cennard Davies

7:30yh, Clwb Criced, Bryn Road, Tondu, Pen-y-bont, CF32 9EB

Cost: £2 neu am ddim i aelodau

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Pat Jones-Jenkins, 01656 741622, patjonesjenkins@googlemail.com

cymdeithas hanes 2015

Swper Santes Dwynwen

Nos Iau, Ionawr 29ain 2015, Bwyty’r Tymhorau, Coleg Penybont.

Pryd o fwyd tri chwrs a choffi – £14.95 (Rhaid archebu o flaen llaw – dyddiad cau dydd Gwener Ionawr 16eg)

Am ragor o fanylion cysylltwch â Menter Bro Ogwr neu ewch i Siop Yr Hen Bont ym Mhen-y-bont i archebu eich lle.

menter@broogwr.org 
01656 732200

Posrter Swper Santes Dwynwen 2015

Chwarae i Ddysgu

Sesiynau hwyl llyfrgell a hamdden i blant 3-7 oed a’u rhieni.
Bob dydd Sadwrn 15/11/14 – 6/12/14 yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr.

09:30 – 10:30
Pris: £3.80 y sesiwn

Mae hwn yn gyfle gwych i rieni a phlant ddysgu sut i droi straeon yn chwarae a dysgu’r sgiliau craidd i blant ar gyfer bywyd o chwaraeon a gweithgareddau.

chwarae i ddysgu cymraeg