Hysbyseb Swydd: Swyddog Hyfforddiant
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am berson trefnus, effeithiol a phrofiadol sydd â’r gallu i weithio i ddiwallu anghenion hyfforddiant y rhwydwaith o 23 Menter Iaith ar draws Cymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Mi fydd y person delfrydol â phrofiad yn y maes hyfforddiant, yn hunan ddisgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Cyflog: £25,000 – £28,000 y flwyddyn
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cytundeb: 14 mis, gyda phosibilrwydd o barhad
Lleoliad: Llanrwst, Pontypridd neu Llandeilo
Dyddiad cau: 2 Chwefror 2015
Dyddiad cyfweliadau: 9 Chwefror 2015
Cliciwch yma am ffurflen gais: Ffurflen Gais MIC
Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd: Disgrifiad Swydd Swyddog Hyfforddiant MIC
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Emily Cole: emily@mentrauiaith.org 01443 493715
Cyllidir y Swydd gan Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith