Archif Awdur: Golygydd Menter

Ail-gydia’n dy Gymraeg!

Image

‘Dych chi’n siarad Cymraeg ers gadael ysgol? ‘Dych chi eisiau siarad Cymraeg ond ddim yn teimlo’n hyderus? Oes plant gyda chi sy’n mynd i ysgol Gymraeg?

Os felly, dyma gyfle gwych i chi!

Mae Menter Bro Ogwr yn cynnal sesiynau anffurfiol i rieni, sesiynau syml a llawn hwyl er mwyn i chi gael ail-gydio yn eich Cymraeg a’i ddefnyddio gyda’r teulu i gyd, pryd bynnag a ble bynnag ‘dych chi eisiau.

Os oes diddordeb gyda chi gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Kathryn ar 01656 732200 / 07870 372 669 neu e-bostio: kathryn@menterbroogwr.org

Cyflwyno Gwersi Nofio Cymraeg

Nofio

Yn y flwyddyn newydd bydd Hamdden Halo ac Urdd Gobaith Cymru yn cynnig gwersi nofio Cymraeg i ‘ddechreuwyr’ yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr ar fore dydd Sul am 10.30am (yn dechrau ar 5 Ionawr 2014) ac ym Mhwll Nofio Maesteg ar brynhawn dydd Llun am 4pm a 4.30 pm (yn dechrau ar 13 Ionawr 2014).

Am ragor o wybodaeth ffoniwch y dderbynfa ar:

Canolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr – 0300 012 1223 opsiwn 1

Pwll Nofio Maesteg – 0300 012 1223 opsiwn 4

Dathlu’r Hen Galan 2014

Poster Dathlu'r Hen Galan 2014 Cymraeg

“Mae Mari Lwyd lawen, am ddod i’ch Tŷ Cornel a chanu yw’r diben, mi dybiaf.”

Dewch i ddathlu’r Hen Galan gyda Menter Bro Ogwr a’r Fari Lwyd!

Defod sy’n gysylltiedig â’r Flwyddyn Newydd yw’r Fari Lwyd ac mae ganddo gysylltiadau cryf â Phen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig pentref Llangynwyd, Maesteg. Bydd grŵp o ddynion yn cario penglog ceffyl wedi ei addurno o dy i dy, a chynnal gornest o ganu penillion neu bwnco er mwyn cael mynediad i’r tŷ.

Bydd y Fari Lwyd yn ymweld â Thafarn Tŷ Cornel, Llangynwyd ar Nos Lun 13eg o Ionawr 2014. Bydd y noson yn dechrau am 7:30 a bydd sesiwn werin yn dilyn, croeso i bawb wrando, canu neu chwarae! Dewch yn llu!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marged
01656 732200
marged@menterbroogwr.org

 

Taith Nadolig Sali Mali Mudiad Meithrin Pen-y-bont a Menter Bro Ogwr 29/11/13 – 5/12/13

sali mali

Dros gyfnod o 5 niwrnod fe ymwelodd Sali Mali â 5 Cylch Ti a Fi ac 11 Cylch Meithrin yn Sir Pen-y-bont. Roedd cyfle i blant a rhieni canu a dawnsio gyda Sali Mali, gan ddysgu ambell i gân newydd hefyd.

Dosbarthwyd pecynnau i bob plentyn, yn cynnwys gwybodaeth am Fenter Bro Ogwr, Mudiad Meithrin a llenyddiaeth yn hybu manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg, hefyd cerdyn Nadolig i liwio!

Ym mhob Ti a Fi ac mewn rhai o’r cylchoedd meithrin, roedd ‘na gyfle i siarad gyda’r rhieni yn uniongyrchol ynglŷn â gwaith Menter Bro Ogwr a Mudiad Meithrin, a manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg. Cafodd 212 o blant y cyfle i ddawnsio a chanu gyda Sali Mali, ac roedd cyfle i siarad â 70 o rieni yn uniongyrchol. Dosbarthwyd cyfanswm o 293 o becynnau gwybodaeth, trwy’r plant yn y cylchoedd meithrin, neu’n uniongyrchol i’r rhieni/ gofalwyr.

Nadolig 2013

Nadolig 2013

Ffair Nadolig Ysgol Cwm Garw Dydd Mercher 27 Tachwedd 5-7yh

Ffair Nadolig Ysgol Cynwyd Sant Dydd Gwener 29 Tachwedd 2.30yp

Ffair Nadolig Ysgol Y Ferch o’r Sgêr Dydd Gwener 29 Tachwedd 3.30-6.00yh

Ffair Nadolig Ysgol Bro Ogwr Dydd Gwener 29 Tachwedd 4:30 – 6:30yh

Ffair Nadolig Ysgol Llangynwyd Dydd Iau 12 Ragfyr 2.30 – 5.30yh

Cyngerdd Nadolig YGG Llangynwyd – Eglwys Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Fawrth 10fed o Ragfyr 6 o’r gloch