Archifau Categori: Heb Gategori

Bore Hwyl

05.03.15 – Bore hwyl – Llyfrgell Pontycymer –  10yb – 1yp –  Amrywiaeth o weithgareddau a stondinau gwybodaeth –  Dewch wedi gwisgo ar gyfer Diwrnod y Llyfr neu mewn gwisg Gymraeg ar gyfer y Ffotograffydd.

Bore Hwyl 05.03.15 C

Digwyddiadau o gwmpas Gŵyl Ddewi

27.02.15 – 01.03.15 – Cwlwm Celtaidd – Gŵyl Ryng-Geltaidd Cymru – Pafiliwn y Grand Porthcawl -Cysylltwch â’r swyddfa docynnau i gael mwy o fanylion – 01656 815995.

01.03.2015— Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi – Cystadleuaeth lliwio – Ffilmio C’mon Cymru! – Ymweliad gan Superted – Sainsbury’s Sarn – Trwy’r dydd.

02.03.2015 – Noson Cawl a Chân yng nghwmni Anwen-Angharad – croeso cynnes i bawb! – Tafarn Tywysog     Cymru, Ton Cynffig – 7:15yh – £8 y pen ond rhaid bwcio o flaen llaw – rhif ffôn i archebu lle – 01656 732200.

03.03.2015 – Clwb Cinio Cymraeg – Cinio Rhost a Phwdin – croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr            Canolradd + – Bwyty’r Tymhorau, Coleg Penybont – £5.45 y pen ond rhaid bwcio o flaen llaw – rhif ffôn i archebu lle – 01656 302412.

04.03.15 – Noson Cawl a Chân Ysgol y Ferch o’r Sgêr – 6 o’r gloch – Cystadleuwyr eisteddfod yr Urdd yn perfformio.

05.03.15 – Bore hwyl – Llyfrgell Pontycymer –  10yb – 1yp –  Amrywiaeth o weithgareddau a stondinau gwybodaeth –  Dewch wedi gwisgo ar gyfer Diwrnod y Llyfr neu mewn gwisg Gymraeg ar gyfer y Ffotograffydd.

05.03.15 – Cyngerdd Gŵyl Ddewi – 6 o’r gloch Theatr Sony Coleg Penybont – rhaglen i gynnwys eitemau gan ysgolion Cymraeg yr ardal, Côr yr Einion, Aelwyd Porthcawl a       myfyrwyr Coleg Penybont.

06.03.15 – Eisteddfod Cylch Ogwr– Neuadd y Dref Maesteg – 10yb.

07.03.15 – Bore Coffi – Neuadd Capel y Tabernacl Porthcawl, CF36 3DW – 10:30yb – 12yp.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Menter Bro Ogwr – menter@broogwr.org – 01656 732200 -www.menterbroogwr.org

Rhaglen Gwyl Ddewi 2015

Dydd Gŵyl Dewi 2015

Noson Cawl a Chân 
02 Mawrth 2015 7:15yh
Tafarn Tywysog Cymru, Ton Cynffig
Tocyn: £8 

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Menter Bro Ogwr! 
Dim ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly’r cyntaf i’r felin caiff falu!!! Os hoffech chi ymuno â Menter Bro Ogwr i ddathlu nawddsant Cymru, cysylltwch â Menter Bro Ogwr neu ewch i Siop yr Hen Bont ar unwaith i brynu eich tocyn!

Rhaid talu o flaen llaw – dyddiad cau dydd Mercher Chwefror 25ain.

menter@broogwr.org
01656 732 200

poster Dydd Gŵyl Dewi 2015

Hwyl y Gwyliau Chwefror 2015

Dydd Llun 16eg o Chwefror i ddydd Mercher 18eg o Chwefror.

Bydd Hwyl y Gwyliau Cymraeg yn ystod Hanner Tymor Chwefror yn cael eu rhedeg gan Menter Bro Ogwr. Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio staff cymwysedig, profiadol a brwdfrydig a fydd yn trefnu rhaglen o weithgareddau cyffrous i fechgyn a merched 8 – 14 blwydd oed.

Bydd ein rhaglenni’n cynnwys gweithgareddau chwaraeon , megis pêl-droed, phêl-rwyd, pêl osgoi, rybgi cyffwrdd, a llawer mwy. Hefyd, mae gennym amrywiaeth o weithgareddau gwahanol ar gael ym maes celf a chrefft, gêmau, Nintendo Wii, a llawer mwy!

Bydd Hwyl y Gwyliau yn rhedeg o 10.00yb tan 3.00yp. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Menter Bro Ogwr—01656 732200 – menter@broogwr.org— 07929 923806

Hwyl y Gwyliau Chwefror 2015

Hysbyseb Swydd: Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Hysbyseb Swydd: Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am berson trefnus, effeithiol a phrofiadol sydd â’r gallu i gefnogi’r rhwydwaith o 23 Menter Iaith yn y maes marchnata a chyfathrebu i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd y person llwyddiannus hefyd yn arwain gweithgareddau cenedlaethol yn y maes.

Mi fydd y person delfrydol yn hunan ddisgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.

Cyflog: £25,000 – £28,000 y flwyddyn

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Cytundeb: 14 mis, gyda phosibilrwydd o barhad

Lleoliad: Llanrwst, Pontypridd neu Llandeilo

Dyddiad cau: 2 Chwefror 2015

Dyddiad cyfweliadau: 9 Chwefror 2015

Cliciwch yma am ffurflen gais:Ffurflen Gais MIC

Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd:Disgrifiad Swydd Swyddog Marchnata a Chyfathrebu MIC

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Emily Cole, emily@mentrauiaith.org

01443 493715

Cyllidir y Swydd gan Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith

MIC

Hysbyseb Swydd: Swyddog Hyfforddiant

Hysbyseb Swydd: Swyddog Hyfforddiant

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am berson trefnus, effeithiol a phrofiadol sydd â’r gallu i weithio i ddiwallu anghenion hyfforddiant y rhwydwaith o 23 Menter Iaith ar draws Cymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mi fydd y person delfrydol â phrofiad yn y maes hyfforddiant, yn hunan ddisgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.

Cyflog: £25,000 – £28,000 y flwyddyn

Oriau: 37 awr yr wythnos

Cytundeb: 14 mis, gyda phosibilrwydd o barhad

Lleoliad: Llanrwst, Pontypridd neu Llandeilo

Dyddiad cau: 2 Chwefror 2015

Dyddiad cyfweliadau: 9 Chwefror 2015

Cliciwch yma am ffurflen gais: Ffurflen Gais MIC

Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd: Disgrifiad Swydd Swyddog Hyfforddiant MIC

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Emily Cole: emily@mentrauiaith.org 01443 493715

Cyllidir y Swydd gan Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith

MIC