Hysbyseb Swydd: Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am berson trefnus, effeithiol a phrofiadol sydd â’r gallu i gefnogi’r rhwydwaith o 23 Menter Iaith yn y maes marchnata a chyfathrebu i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd y person llwyddiannus hefyd yn arwain gweithgareddau cenedlaethol yn y maes.
Mi fydd y person delfrydol yn hunan ddisgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Cyflog: £25,000 – £28,000 y flwyddyn
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Cytundeb: 14 mis, gyda phosibilrwydd o barhad
Lleoliad: Llanrwst, Pontypridd neu Llandeilo
Dyddiad cau: 2 Chwefror 2015
Dyddiad cyfweliadau: 9 Chwefror 2015
Cliciwch yma am ffurflen gais:Ffurflen Gais MIC
Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd:Disgrifiad Swydd Swyddog Marchnata a Chyfathrebu MIC
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Emily Cole, emily@mentrauiaith.org
01443 493715
Cyllidir y Swydd gan Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith