HYSBYSEB SWYDD

Image-1

Swydd: Gweithiwr Siop                                                                                                             

Graddfa Gyflog: Cyflog Cenedlaethol gyda’r cyfle i ennill bonws                                        

Oriau:  Hyd at 15awr yr wythnos.

Mae Menter Iaith Bro Ogwr yn chwilio am Weithiwr Siop, i weithio yn Siop Yr Hen Bont ar Ogwr. Dyma yw’r unig siop Cymraeg ym Mhen-y-bont, sy’n cynnig llyfrau, cardiau ac anrhegion Cymraeg.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig, hyderus, sy’n brydlon a threfnus, yn gallu rheoli arian ac yn medru siarad Cymraeg. Bydd profiad o weithio mewn siop yn ddymunol ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei rhoi.

Bydd disgwyl i’r gweithiwr siop gynnal safonau manwerthu uchel gan helpu cynyddu’r gwerthiant a’r elw, deall gofynion y cwsmeriaid a chyfrannu tuag at ymwybyddiaeth iaith o fewn ein Sir gyda dealltwriaeth o waith Menter Bro Ogwr.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol â phobl, cydweithwyr a’r gymuned, a phrofiad o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn hapus i gynnig cytundeb rhannu swydd/oriau gwaith sy’n gyfleus i’r ymgeisydd llwyddiannus. Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus weithio diwrnodau llawn 9-5yp ond rydym yn hapus i drafod y nifer o ddiwrnodau y byddwch yn gweithio’n wythnosol.

Lleolir y swydd yn Siop Yr Hen Bont, 2, Yr Hen Bont, Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyddiad cau’r swydd uchod yw dydd Gwener, Awst 23 2016.                                                    

Am ragor o fanylion ac i ymgeisio am y swydd uchod, cysylltwch ag Amanda Jaine Evans, Menter Bro Ogwr, Tŷ’r Ysgol, Pen yr Ysgol, Maesteg, Pen y Bont ar Ogwr, CF34 9YE.        Ffôn: (01656 732200) e-bost: menter@broogwr.org