Cartref

 

 

  • Holiadur Gweithgareddau a Digwyddiadau Cymraeg i Oedolion 2019-20

    Mae Menter Bro Ogwr eisiau casglu gwybodaeth gan oedolion y sir am ba fath o ddigwyddiadau a gweithgareddau hoffem nhw fynychu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y wybodaeth ar y ffurflen yma’n cael ei ddefnyddio er mwyn mesur y galw ar ba gyfleoedd i ddarparu yn y dyfodol agos. Byddem yn ddiolchgar iawn pe bai chi’n gallu cwblhau’r holiadur ar-lein isod a’u rhannu gyda’ch cysylltiadau os gwelwch yn dda. Loading…
    17 May 2019
  • THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘BRECSHIT’ – sioe glybiau newydd sbon

    Mae teulu Doris Morris wedi bod yn ffarmio yn Bryn-Cwd-yr-Arian ers canrifoedd, ond yn dilyn canlyniad y bleidlais Brexit mae Doris druan wedi gorfod arall-gyfeirio. Bellach mae hi’n rhedeg clinig therapiwtig a hafan I bobl gyda bob math o broblemau. A fydd rhedeg busnes o’r fath yn cadw’r blaidd o’r drws? A fydd Doris yn llwyddo I gadw ei hetifeddiaeth? A pa mor iachus ydy ‘colonic irrigation’ I rywun mewn gwirionedd? – Cawn weld! Actorion:  Iwan Charles, Manon Elis, Llyr Evans, Gwenno Elis Hodgkins Cyfarwyddwr:  John Glyn Owen Ar daith Mai laf – Mehefin 2, 2018
    10 April 2018
  • It’s My Shout / BBC Cymru Wales / S4C: Ffilmiau byr – Haf 2018 – Galw am gyfarwyddwyr

      Mae It’s My Shout yn chwilio am gyfarwyddwyr newydd i gyfarwyddo ffilmiau fydd yn ymddangos ar BBC Cymru Wales ac S4C yn ystod mis Hydref 2018. Rydym yn chwilio am GYFARWYDDWYR sydd: • â gwybodaeth a dealltwriaeth am brosesau creu ffilm • yn gallu gweithio mewn tîm ac yn barod i ddatblygu gweledigaeth y tîm hwnnw • yn gallu cyfathrebu gyda thîm cynhyrchu / ôl-gynhyrchu profiadol. • yn gallu cyfathrebu gydag actorion mewn ymarferion ac ar set. Os gewch chi gyfweliad, bydd angen i chi gynnig syniadau ar gyfer un o’r sgriptiau terfynol. Dyma gyfle arbennig i unrhyw un sydd ag angerdd i greu a chyfarwyddo. Mae’n bwysig fod ymgeiswyr yn ymwybodol fod gwaith paratoi o flaen llaw, a bydd rhaid caniatau amser i gyfarwyddo dros gyfnod yr haf. Bydd y ffilmiau byr yn cael ei ddangos ar BBC Cymru Wales ac S4C gan ddibynnu ar iaith eich sgript. Byddwn yn cynnal dangosiad o’r gwaith ynghyd â ...
    10 April 2018
  • HYSBYSEB SWYDD

    Manylion y swydd Teitl y swydd: Cynorthwyydd Adnoddau Dynol Cyfeirnod y swydd: 08804 Dyddiad cyhoeddi: 15/3/2018 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28/3/18 Categori’r swydd/math o swydd: Swyddi Gwag (Heblaw Ysgolion) Disgrifiad swydd: Hysbyseb Swydd Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol Cynorthwyydd Adnoddau Dynol GBP 19,430 – GBP 20,138 y flwyddyn 37 awr yr wythnos Fel aelod o’n tim Recriwtio a Chontractau byddwch yn ymgymryd a thasgau i gynorthwyo gweithdrefnau recriwtio, dechrau a gadael y cyngor drwy ddefnyddio system integredig adnoddau dynol/cyflogres. Byddwch hefyd yn gweinyddu proses gwirio cofnodion troseddol y Cyngor drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd hyn yn cynnwys tasgau o hysbysebu swydd wag hyd at gynnig penodi, amrywiadau contractau a therfyniadau. A chithau’n weinyddwr cadarn a phrofiad o weithio mewn amgylchedd adnoddau dynol, bydd gennych sgiliau T.G. da a phrofiad blaenorol o ddefnyddio systemau swyddfa. A chithau’n gweithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, bydd gennych sgiliau cyfathrebu da, yn gallu gweithio mewn amgylchedd swyddfa cyflym ac yn gallu ...
    20 March 2018
  • Nifer o fudiadau yn elwa o grantiau er mwyn hybu’r Iaith Gymraeg

    Llwyddiant i 20 o fudiadau ledled Cymru sydd yn derbyn grantiau, a godwyd fel rhan o Ras yr Iaith 2018, i’w cefnogi i hybu’r iaith Gymraeg yn y gymuned. Hoffai Menter Bro Ogwr longyfarch Cylch Meithrin y Ferch o’r Sgêr sydd wedi llwyddo derbyn grant Ras yr Iaith eleni! Mae trefnwyr Ras yr Iaith, Rhedadeg cyf a Mentrau Iaith Cymru, yn falch o allu darparu grantiau hyd at £750 i fudiadau a sefydliadau lleol, yn dilyn llwyddiant trydedd Ras yr Iaith a gynhaliwyd rhwng 4 – 6 Gorffennaf 2018 a gododd dros £7,500 o elw tuag at yr achos. Ymwelodd Ras yr Iaith ȃ 15 tref a phentref rhwng Wrecsam a Chaerffili, gyda Baton yr Iaith yn uno miloedd o redwyr ar draws y wlad. Bu busnesau, sefydliadau, ysgolion ac unigolion yn rhoi nawdd o £50 i noddi cymal o’r Ras. Yr elw hwn sy’n cael ei rannu ar ffurf grantiau. Bydd y Ras ...
    8 March 2019
  • GALWAD SGRIPT – DRAMA – ar gyfer S4C ac BBC Cymru

    Cyfle cyffrous i hyfforddi sgriptwyr newydd. Rydym yn gwahodd sgripwyr ffilm fer i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddi It’s My Shout 2018. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae It’s My Shout wedi cynhyrchu ffilmiau o safon sydd wedi ennill ffilmiau Bafta Cymru, drwy gydweithio gyda’n partneriaid BBC Cymru Wales a S4C. Bydd y sgriptwyr yn cael eu datblygu a’u hyfforddi yn ystod yr haf. Mae It’s My Shout yn chwilio am ffilmiau cyffrous ac amrywiol, a hoffem annog sgriptwyr comedi i ymgeisio. Bydd BBC Writersroom ynghlwm trwy gydol y proses. Byddwn yn croesawu sgriptiau sy’n cynnwys cymeriadau ifanc (rhwng 12 – 24 oed) sy’n perthyn i amrywiol gefndiroedd economaidd a chymdeithasol, gan adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Mae amrywiaeth yn bwysig i ni, a byddem yn annog cast mawr os yw hynny yn briodol. Rydym yn edrych am waith creadigol a fydd yn cwmpasu ystod eang o genres a phynciau. Ond canllaw ...
    10 April 2018
  • Cwblhewch ein holiadur Gweithgareddau a Digwyddiadau Cymraeg!

    Loading…
    21 March 2018
  • BYTIS BYGIS

    Y ffordd orau i gael eich hunan nôl mewn i siâp wrth fondio gyda’ch plentyn, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio neu ddysgu ychydig o Gymraeg ar yr un pryd! Byddwn yn cwrdd unwaith y mis ac yn mynd am dro gan adnabod a dysgu pethau gwahanol yn y Gymraeg. Byddwn yn gorffen y sesiwn gyda gweithgaredd celf yn y ganolfan gyda chaneuon Cymraeg i chi a’ch plant ddysgu. Ffordd wych i chi gael rhywfaint o awyr iach, diddanu’r plant a chymdeithasu. Nid yw bygis yn hanfodol, rydym yn croesawu plant o bob oedran! Cyfarfod nesaf: 27.04.18 1-2:30pm
    7 March 2018