
Mae Menter Bro Ogwr eisiau casglu gwybodaeth gan oedolion y sir am ba fath o ddigwyddiadau a gweithgareddau hoffem nhw fynychu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y wybodaeth ar y ffurflen yma’n cael ei ddefnyddio er mwyn mesur y galw ar ba gyfleoedd i ddarparu yn y dyfodol agos. Byddem yn ddiolchgar iawn pe bai chi’n gallu cwblhau’r holiadur ar-lein isod a’u rhannu gyda’ch cysylltiadau os gwelwch yn dda.
Loading…
17 May 2019
Mae teulu Doris Morris wedi bod yn ffarmio yn Bryn-Cwd-yr-Arian ers canrifoedd, ond yn dilyn canlyniad y bleidlais Brexit mae Doris druan wedi gorfod arall-gyfeirio. Bellach mae hi’n rhedeg clinig therapiwtig a hafan I bobl gyda bob math o broblemau. A fydd rhedeg busnes o’r fath yn cadw’r blaidd o’r drws? A fydd Doris yn llwyddo I gadw ei hetifeddiaeth? A pa mor iachus ydy ‘colonic irrigation’ I rywun mewn gwirionedd? – Cawn weld!
Actorion: Iwan Charles, Manon Elis, Llyr Evans, Gwenno Elis Hodgkins
Cyfarwyddwr: John Glyn Owen
Ar daith Mai laf – Mehefin 2, 2018
10 April 2018
Mae It’s My Shout yn chwilio am gyfarwyddwyr newydd i gyfarwyddo ffilmiau fydd yn ymddangos ar BBC Cymru Wales ac S4C yn ystod mis Hydref 2018.
Rydym yn chwilio am GYFARWYDDWYR sydd:
• â gwybodaeth a dealltwriaeth am brosesau creu ffilm
• yn gallu gweithio mewn tîm ac yn barod i ddatblygu gweledigaeth y tîm hwnnw
• yn gallu cyfathrebu gyda thîm cynhyrchu / ôl-gynhyrchu profiadol.
• yn gallu cyfathrebu gydag actorion mewn ymarferion ac ar set.
Os gewch chi gyfweliad, bydd angen i chi gynnig syniadau ar gyfer un o’r sgriptiau terfynol. Dyma gyfle arbennig i unrhyw un sydd ag angerdd i greu a chyfarwyddo.
Mae’n bwysig fod ymgeiswyr yn ymwybodol fod gwaith paratoi o flaen llaw, a bydd rhaid caniatau amser i gyfarwyddo dros gyfnod yr haf. Bydd y ffilmiau byr yn cael ei ddangos ar BBC Cymru Wales ac S4C gan ddibynnu ar iaith eich sgript. Byddwn yn cynnal dangosiad o’r gwaith ynghyd â ...
10 April 2018
Manylion y swydd Teitl y swydd: Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
Cyfeirnod y swydd: 08804
Dyddiad cyhoeddi: 15/3/2018
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28/3/18
Categori’r swydd/math o swydd: Swyddi Gwag (Heblaw Ysgolion)
Disgrifiad swydd: Hysbyseb Swydd Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol
Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
GBP 19,430 – GBP 20,138 y flwyddyn
37 awr yr wythnos
Fel aelod o’n tim Recriwtio a Chontractau byddwch yn ymgymryd a thasgau i gynorthwyo gweithdrefnau recriwtio, dechrau a gadael y cyngor drwy ddefnyddio system integredig adnoddau dynol/cyflogres. Byddwch hefyd yn gweinyddu proses gwirio cofnodion troseddol y Cyngor drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd hyn yn cynnwys tasgau o hysbysebu swydd wag hyd at gynnig penodi, amrywiadau contractau a therfyniadau.
A chithau’n weinyddwr cadarn a phrofiad o weithio mewn amgylchedd adnoddau dynol, bydd gennych sgiliau T.G. da a phrofiad blaenorol o ddefnyddio systemau swyddfa. A chithau’n gweithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, bydd gennych sgiliau cyfathrebu da, yn gallu gweithio mewn amgylchedd swyddfa cyflym ac yn gallu ...
20 March 2018
Llwyddiant i 20 o fudiadau ledled Cymru sydd yn derbyn grantiau, a godwyd fel rhan o Ras yr Iaith 2018, i’w cefnogi i hybu’r iaith Gymraeg yn y gymuned.
Hoffai Menter Bro Ogwr longyfarch Cylch Meithrin y Ferch o’r Sgêr sydd wedi llwyddo derbyn grant Ras yr Iaith eleni!
Mae trefnwyr Ras yr Iaith, Rhedadeg cyf a Mentrau Iaith Cymru, yn falch o allu darparu grantiau hyd at £750 i fudiadau a sefydliadau lleol, yn dilyn llwyddiant trydedd Ras yr Iaith a gynhaliwyd rhwng 4 – 6 Gorffennaf 2018 a gododd dros £7,500 o elw tuag at yr achos.
Ymwelodd Ras yr Iaith ȃ 15 tref a phentref rhwng Wrecsam a Chaerffili, gyda Baton yr Iaith yn uno miloedd o redwyr ar draws y wlad. Bu busnesau, sefydliadau, ysgolion ac unigolion yn rhoi nawdd o £50 i noddi cymal o’r Ras. Yr elw hwn sy’n cael ei rannu ar ffurf grantiau.
Bydd y Ras ...
8 March 2019
Cyfle cyffrous i hyfforddi sgriptwyr newydd. Rydym yn gwahodd sgripwyr ffilm fer i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddi It’s My Shout 2018. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae It’s My Shout wedi cynhyrchu ffilmiau o safon sydd wedi ennill ffilmiau Bafta Cymru, drwy gydweithio gyda’n partneriaid BBC Cymru Wales a S4C. Bydd y sgriptwyr yn cael eu datblygu a’u hyfforddi yn ystod yr haf. Mae It’s My Shout yn chwilio am ffilmiau cyffrous ac amrywiol, a hoffem annog sgriptwyr comedi i ymgeisio. Bydd BBC Writersroom ynghlwm trwy gydol y proses. Byddwn yn croesawu sgriptiau sy’n cynnwys cymeriadau ifanc (rhwng 12 – 24 oed) sy’n perthyn i amrywiol gefndiroedd economaidd a chymdeithasol, gan adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Mae amrywiaeth yn bwysig i ni, a byddem yn annog cast mawr os yw hynny yn briodol. Rydym yn edrych am waith creadigol a fydd yn cwmpasu ystod eang o genres a phynciau. Ond canllaw ...
10 April 2018Loading…
21 March 2018
Y ffordd orau i gael eich hunan nôl mewn i siâp wrth fondio gyda’ch plentyn, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio neu ddysgu ychydig o Gymraeg ar yr un pryd! Byddwn yn cwrdd unwaith y mis ac yn mynd am dro gan adnabod a dysgu pethau gwahanol yn y Gymraeg. Byddwn yn gorffen y sesiwn gyda gweithgaredd celf yn y ganolfan gyda chaneuon Cymraeg i chi a’ch plant ddysgu. Ffordd wych i chi gael rhywfaint o awyr iach, diddanu’r plant a chymdeithasu. Nid yw bygis yn hanfodol, rydym yn croesawu plant o bob oedran!
Cyfarfod nesaf: 27.04.18 1-2:30pm
7 March 2018