Archifau Categori: Heb Gategori

Gŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr 2014

Unwaith eto eleni, mae’r Fenter wedi trefnu digwyddiadau cyffrous ar gyfer pob oedran yn ystod Gŵyl Menter Bro Ogwr 2014. Mi fydd y gŵyl yn dechrau ar ddydd Iau, 26ain o Fehefin, ac yn para am wythnos cyfan. Felly, dewch i ymuno â ni:

26.06.13 – Cinio Diwedd Tymor, Tŷ Bryngarw, 7.30yh. Cyfle i ddathlu diwedd tymor!

29.06.14 – Cymanfa Ganu Cymraeg i Oedolion, Tabernacl Chapel, Fenton Place, Porthcawl, 3yh. Croeso mawr i bawb!

30.06.14 – Gemau Iard, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr, 12.30 – 1yp. Ymunwch â ni am ychydig o sbort a sbri yn ystod amser cinio…pwy fydd yr enillydd?

30.06.14 – Cwis Tafarn, Clwb y Gweithwyr, Stryd y Deml, Maesteg, 8:30yh. Cyfle i brofi eich gwybodaeth cyffredinol a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Croeso mawr i bawb!

02.07.14 – Gemau gyda’ch Cyfoedion! Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, 1 – 1.45yp. Ymunwch â ni am ychydig o sbort a sbri yn ystod amser cinio…pwy fydd yr enillydd?

02.07.14 – Trip Bowlio Deg! Bae Caerdydd, 3.30 – 8yh. Dewch i ymarfer eich sgiliau bowlio gyda’ch ffrindiau lawr y Bae! Blynyddoedd 7-9.

02.07.14 – Cystadleuaeth creu Castell Tywod i deuluoedd, 5 – 6yh, Traeth Coney, Porthcawl.

03.07.14 – Diwrnod Hwyl i’r Teulu, ar y cyd gyda Tyfu, Mudiad Meithrin ac Urdd Gobaith Cymru. Llyfrgell Llynfi, Maesteg, 10 – 1yp.

04.07.14 – Dawns Fasgiau i flwyddyn 6 ysgolion cynradd a blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Canolfan Richard Price, Llangeinor, 7-9yh.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Menter Bro Ogwr:

menter@menterbroogwr.org

01656 732 200

Poster Gŵyl MBO 2014

Bore Hwyl i’r teulu cyfan

Tro gyda Stori Mae angen aduno Ted y Tedi gyda’i berchennog! Dilynwch ei gyfarwyddiadau a dewch am dro o amgylch y goedwig yn edrych am ddarnau o’r stori. Wrth ddarllen y stori, byddwch chi’n cael y cyfle i gwrdd ag Anifeiliaid y Goedwig ac yn dysgu geirfa newydd ar fore hwyl gyda’r teulu. Rhaid bwcio o flaen llaw. Cysylltwch â Kathryn ar 01656 732200 neu kathryn@menterbroogwr.org

poster final sotri am dro

Am 7pm, nos Fawrth 24 Mehefin yng Nghlwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr  bydd cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod y gwahoddiad sydd wedi ei estyn i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymweld â Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017.

Bydd Cynghorau Lleol, Cyrff Cyhoeddus, Cymdeithasau a Mudiadau Gwirfoddol a’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod i drafod cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn 2017.

Yn annerch yn y cyfarfod bydd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau a chynrychiolydd o Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Hwn fydd y cyswllt cyntaf rhwng Adran yr Eisteddfod a thrigolion yr ardal ac yn y cyfarfod, os bydd gwahoddiad ffurfiol yn cael ei estyn i’r Eisteddfod, bydd yr Urdd yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a gwybodaeth yn cael ei rannu am ddyddiadau’r pwyllgorau testunau.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, “Mae gwirfoddolwyr yr Urdd a’r Cyngor eisoes wedi datgan eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r Ŵyl ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod â thrigolion yr ardal gyda’r gobaith o ddod â’n Prifwyl i’r ardal yn 2017.”

Ychwanegodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, “Bwriad y cyfarfod hwn fydd derbyn sêl bendith yr ardal – y cymdeithasau, mudiadau, sefydliadau a’r trigolion – i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r Sir.  Nid ydym wedi ymweld gyda’r ardal ers Eisteddfod yr Urdd Maesteg yn 1979, a byddai’n braf iawn cynnal ein Eisteddfod Genedlaethol yn y rhan yma o Gymru unwaith eto.”Logo'r_Urdd

Carnifal Porthcawl

Mae Carnifal Porthcawl yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 19eg gyda’r thema ‘dathlu bywyd ac oesoedd Porthcawl ers 1914’. Rydym yn bwriadu trefnu fflôt a stondin yn y carnifal i ddangos y gefnogaeth a chyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Croeso cynnes i chi ymuno â ni er mwyn sicrhau ein presenoldeb yng Ngharnifal Porthcawl.

Am ragor o fanylion cysylltwch ag Amanda Evans, Prif Swyddog Iaith Menter Bro Ogwr
01656 732200 neu e-bostio: menter@broogwr.org

Dathlu’r Hen Galan 2014

Poster Dathlu'r Hen Galan 2014 Cymraeg

“Mae Mari Lwyd lawen, am ddod i’ch Tŷ Cornel a chanu yw’r diben, mi dybiaf.”

Dewch i ddathlu’r Hen Galan gyda Menter Bro Ogwr a’r Fari Lwyd!

Defod sy’n gysylltiedig â’r Flwyddyn Newydd yw’r Fari Lwyd ac mae ganddo gysylltiadau cryf â Phen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig pentref Llangynwyd, Maesteg. Bydd grŵp o ddynion yn cario penglog ceffyl wedi ei addurno o dy i dy, a chynnal gornest o ganu penillion neu bwnco er mwyn cael mynediad i’r tŷ.

Bydd y Fari Lwyd yn ymweld â Thafarn Tŷ Cornel, Llangynwyd ar Nos Lun 13eg o Ionawr 2014. Bydd y noson yn dechrau am 7:30 a bydd sesiwn werin yn dilyn, croeso i bawb wrando, canu neu chwarae! Dewch yn llu!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marged
01656 732200
marged@menterbroogwr.org