Archifau Categori: Newyddion

Taith dros nos i Fferm Ymddiriedolaeth Amelia

photo amelia

Ar y 29ain o Fai 2014, aethon ni ar daith dros nos gyda 12 o blant i Fferm Ymddiriedolaeth Amelia. Cafodd y plant ddau ddiwrnod llawn hwyl a sbri ar y fferm yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau, megis helfa dail, chwaraeon, ymweld â’r anifeiliaid, creu wynebau mwd, coginio cookies, a llawer mwy.

 Roedd hi’n ddiwrnod gwlyb wrth i ni gyrraedd y fferm ond gyda’r wellies a chot glaw ymlaen wnaeth y glaw ddim stopio’r plant rhag cael hwyl yn edrych o gwmpas y fferm a chrwydro o fewn y goedwig. Roedd yn brofiad iddyn nhw aros dros nos i ffwrdd o’u rhieni, ond fe wnaeth pawb fwynhau.

Roedd yn bleser i gael y plant a gweld nhw’n mwynhau’r profiad yma, diolch i chi am fynychu acedrychaf ymlaen at deithiau’r Fenter yn y dyfodol. 

Carnifal Porthcawl

Mae Carnifal Porthcawl yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 19eg gyda’r thema ‘dathlu bywyd ac oesoedd Porthcawl ers 1914’. Rydym yn bwriadu trefnu fflôt a stondin yn y carnifal i ddangos y gefnogaeth a chyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Croeso cynnes i chi ymuno â ni er mwyn sicrhau ein presenoldeb yng Ngharnifal Porthcawl.

Am ragor o fanylion cysylltwch ag Amanda Evans, Prif Swyddog Iaith Menter Bro Ogwr
01656 732200 neu e-bostio: menter@broogwr.org

Pen-blwydd Poenus Pete

penblwydd pete

Dydd Mercher 18 Mehefin 11.30am a 1.30pm

Theatre Iolo – Perfformiad Cymraeg

Comedi ddisglair a brathlyd â golwg bryfoclyd ar ddynameg teulu gan y dramodydd arobryn Gary Owen.

Ceir teulu – Mam, Dad, dau o blant a chath. Mae dad yn dweud nad yw e am ddathlu ei ben-blwydd. Felly mae mam yn dilyn ei gyfarwyddiadau: nid yw hi na’r plant yn paratoi unrhyw ddathliadau ar gyfer ei ben-blwydd. Ond mae dad yn grac iawn nad oes unrhyw un wedi paratoi unrhyw ddathliadau ar gyfer ei ben-blwydd a phan fydd rhwystredigaeth dad yn cyfuno â grym dinistriol y gath, daw anhrefn llwyr i’r teulu.

Mae’n bleser gan gwmni arobryn Theatr Iolo (Enillydd y Ddrama Orau i Blant a Phobl Ifanc: Gwobr Beirniaid Theatr Cymru 2013) gyflwyno’r sioe newydd sbon hon i deuluoedd ac ysgolion yn y Gymraeg. I rai 6+ oed.

Tocynnau £5
1 tocyn am ddim i athro/athrawes am bob 8 a archebir

Bws i’r ‘Steddfod!

Eisteddfod Sir Gâr 2014

Dewch gyda Menter Bro Ogwr i ddathlu diwylliant a threfftadaeth Cymru yn un o wyliau mwyaf y byd!

Pris: £10.50 (Bws yn unig)

Man Codi ac amser:

Gwasanaethau Sarn 9:00yb

Maes Parcio Salt Lake Porthcawl 9:20yb

Byddwn yn gadael yr Eisteddfod am 6.00yp.

Archebwch eich lle nawr!

Ffoniwch Menter Bro Ogwr – 01656 732 200 neu ewch i Siop yr Hen Bont

Dyddiad Cau: 21.07.14  

Deiseb yn cefnogi gwaith y Mentrau Iaith

Mae ‘Dyfodol i’r Iaith’ wedi cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at waith y Mentrau Iaith ac yn galw am drefn ariannu deg i’r Mentrau.
Os allech lofnodi’r ddeiseb isod a rhannu’r manylion gyda’ch cyfeillion byddem yn ddiolchgar iawn.

“Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:
longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru; cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith; ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu – tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt; derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben; ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt; sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau; chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.”

https://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=984

Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.

Amseroedd Agor Newydd Siop yr Hen Bont

Poster Oriau Agor Newydd

O ddydd Llun, 10fed o Fawrth 2014 ymlaen, bydd Siop yr Hen Bont yn cau pob dydd Llun.

Dydd Llun – Ar gau

Dydd Mawrth – 09:15 – 16:45

Dydd Mercher – 09:15 – 16:45

Dydd Iau – 09:15 – 16:45

Dydd Gwener – 09:15 – 16:45

Dydd Sadwrn – 09:15 – 16:45

Dydd Sul – Ar gau

Ail-gydia’n dy Gymraeg!

Image

‘Dych chi’n siarad Cymraeg ers gadael ysgol? ‘Dych chi eisiau siarad Cymraeg ond ddim yn teimlo’n hyderus? Oes plant gyda chi sy’n mynd i ysgol Gymraeg?

Os felly, dyma gyfle gwych i chi!

Mae Menter Bro Ogwr yn cynnal sesiynau anffurfiol i rieni, sesiynau syml a llawn hwyl er mwyn i chi gael ail-gydio yn eich Cymraeg a’i ddefnyddio gyda’r teulu i gyd, pryd bynnag a ble bynnag ‘dych chi eisiau.

Os oes diddordeb gyda chi gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Kathryn ar 01656 732200 / 07870 372 669 neu e-bostio: kathryn@menterbroogwr.org

Cyflwyno Gwersi Nofio Cymraeg

Nofio

Yn y flwyddyn newydd bydd Hamdden Halo ac Urdd Gobaith Cymru yn cynnig gwersi nofio Cymraeg i ‘ddechreuwyr’ yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr ar fore dydd Sul am 10.30am (yn dechrau ar 5 Ionawr 2014) ac ym Mhwll Nofio Maesteg ar brynhawn dydd Llun am 4pm a 4.30 pm (yn dechrau ar 13 Ionawr 2014).

Am ragor o wybodaeth ffoniwch y dderbynfa ar:

Canolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr – 0300 012 1223 opsiwn 1

Pwll Nofio Maesteg – 0300 012 1223 opsiwn 4

Taith Nadolig Sali Mali Mudiad Meithrin Pen-y-bont a Menter Bro Ogwr 29/11/13 – 5/12/13

sali mali

Dros gyfnod o 5 niwrnod fe ymwelodd Sali Mali â 5 Cylch Ti a Fi ac 11 Cylch Meithrin yn Sir Pen-y-bont. Roedd cyfle i blant a rhieni canu a dawnsio gyda Sali Mali, gan ddysgu ambell i gân newydd hefyd.

Dosbarthwyd pecynnau i bob plentyn, yn cynnwys gwybodaeth am Fenter Bro Ogwr, Mudiad Meithrin a llenyddiaeth yn hybu manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg, hefyd cerdyn Nadolig i liwio!

Ym mhob Ti a Fi ac mewn rhai o’r cylchoedd meithrin, roedd ‘na gyfle i siarad gyda’r rhieni yn uniongyrchol ynglŷn â gwaith Menter Bro Ogwr a Mudiad Meithrin, a manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg. Cafodd 212 o blant y cyfle i ddawnsio a chanu gyda Sali Mali, ac roedd cyfle i siarad â 70 o rieni yn uniongyrchol. Dosbarthwyd cyfanswm o 293 o becynnau gwybodaeth, trwy’r plant yn y cylchoedd meithrin, neu’n uniongyrchol i’r rhieni/ gofalwyr.

Nadolig 2013

Nadolig 2013

Ffair Nadolig Ysgol Cwm Garw Dydd Mercher 27 Tachwedd 5-7yh

Ffair Nadolig Ysgol Cynwyd Sant Dydd Gwener 29 Tachwedd 2.30yp

Ffair Nadolig Ysgol Y Ferch o’r Sgêr Dydd Gwener 29 Tachwedd 3.30-6.00yh

Ffair Nadolig Ysgol Bro Ogwr Dydd Gwener 29 Tachwedd 4:30 – 6:30yh

Ffair Nadolig Ysgol Llangynwyd Dydd Iau 12 Ragfyr 2.30 – 5.30yh

Cyngerdd Nadolig YGG Llangynwyd – Eglwys Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Fawrth 10fed o Ragfyr 6 o’r gloch