Archifau Categori: Oedolion

Carnifal Porthcawl

Mae Carnifal Porthcawl yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 19eg gyda’r thema ‘dathlu bywyd ac oesoedd Porthcawl ers 1914’. Rydym yn bwriadu trefnu fflôt a stondin yn y carnifal i ddangos y gefnogaeth a chyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Croeso cynnes i chi ymuno â ni er mwyn sicrhau ein presenoldeb yng Ngharnifal Porthcawl.

Am ragor o fanylion cysylltwch ag Amanda Evans, Prif Swyddog Iaith Menter Bro Ogwr
01656 732200 neu e-bostio: menter@broogwr.org

Bws i’r ‘Steddfod!

Eisteddfod Sir Gâr 2014

Dewch gyda Menter Bro Ogwr i ddathlu diwylliant a threfftadaeth Cymru yn un o wyliau mwyaf y byd!

Pris: £10.50 (Bws yn unig)

Man Codi ac amser:

Gwasanaethau Sarn 9:00yb

Maes Parcio Salt Lake Porthcawl 9:20yb

Byddwn yn gadael yr Eisteddfod am 6.00yp.

Archebwch eich lle nawr!

Ffoniwch Menter Bro Ogwr – 01656 732 200 neu ewch i Siop yr Hen Bont

Dyddiad Cau: 21.07.14  

Deiseb yn cefnogi gwaith y Mentrau Iaith

Mae ‘Dyfodol i’r Iaith’ wedi cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at waith y Mentrau Iaith ac yn galw am drefn ariannu deg i’r Mentrau.
Os allech lofnodi’r ddeiseb isod a rhannu’r manylion gyda’ch cyfeillion byddem yn ddiolchgar iawn.

“Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:
longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru; cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith; ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu – tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt; derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben; ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt; sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau; chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.”

https://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=984

Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.

Ail-gydia’n dy Gymraeg!

Image

‘Dych chi’n siarad Cymraeg ers gadael ysgol? ‘Dych chi eisiau siarad Cymraeg ond ddim yn teimlo’n hyderus? Oes plant gyda chi sy’n mynd i ysgol Gymraeg?

Os felly, dyma gyfle gwych i chi!

Mae Menter Bro Ogwr yn cynnal sesiynau anffurfiol i rieni, sesiynau syml a llawn hwyl er mwyn i chi gael ail-gydio yn eich Cymraeg a’i ddefnyddio gyda’r teulu i gyd, pryd bynnag a ble bynnag ‘dych chi eisiau.

Os oes diddordeb gyda chi gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Kathryn ar 01656 732200 / 07870 372 669 neu e-bostio: kathryn@menterbroogwr.org

Cymdeithas Hanes Bro Ogwr

Sgyrsiau am hanes a diwylliant Cymreig i ddysgwyr Cymraeg.
Poster_Treftad201310091337
Mae gr?p o ddysgwyr o’r Siop Siarad wedi sefydlu cymdeithas hanes a diwylliant Cymreig i ddysgwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Y bwriad yw cynnal sgyrsiau hanesyddol wedi’u hanelu at ddysgwyr (gyda chroeso i siaradwyr Cymraeg rhugl) ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r pwyllgor wedi bod wrthi’n gweithio’n galed yn trefnu digwyddiadau cyntaf y gymdeithas ac rydym yn falch i gyhoeddi ein siaradwyr gwadd cyntaf. Gobeithiwn y gallwch chi ymuno â ni yn y digwyddiadau!

14.10.13 – Atgofion am yr Hen Gwm Llynfi gydag Allan James
18.11.13 – Gwrthrychau gyda Walter Jones

7:30pm T? Risha, Pen-Y-Cae, Bridgend, CF32 9SN

Cost: £2

Am ragor o fanylion cysylltwch â Marged Thomas:
marged@menterbroogwr.org

01656 732 200

Diwrnod Shwmae Su’mae

Hydref 15, 2013 fydd y tro cyntaf inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae! gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.
2013Diwrnod_Shwm101341
Mae Diwrnod Shwmae Su’mae? yn gyfle inni atgyfnerthu a
dathlu’r Gymraeg a’r ffyrdd yr ydym yn cyfarch ein gilydd yn
Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’n gyfle hefyd i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ledled Cymru.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb a gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.

Am ddathlu’r diwrnod? Dewch i ddweud Shwmae! i rai o Fudiadau Cymraeg yr ardal ym Mhen-y-bont a Phorthcawl. Byddwn ni ac Elin y Delyn yn eich cyfarch chi yn y lleoliadau isod:

Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr: 09:30 – 11:30
Stryd John, Porthcawl: 14:00 – 16:00

Bydd cyfle hefyd i chi ennill gwobr yn Siop yr Hen Bont ar y dydd! Bydd Menter Bro Ogwr yn rhoi gwobr i’r hanner canfed person sy’n dod i mewn i’r siop ac yn dechrau’r sgwrs trwy ddweud Shwmae!

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr:
01656 732200 / menter@broogwr.org