Dydd Sadwrn 8 Hydref 2016 yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr
Cynhelir gorymdaith Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017 ddydd Sadwrn 8 Hydref 2016 yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr gydag adloniant i ddilyn ar gaeau Pontnewydd. Diwrnod hwyliog i’r teulu cyfan ac yn gyfle i holl gyfeillion yr Urdd ddod ynghyd i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
Eisiau Helpu?
Mae Eisteddfod yr Urdd yn edrych am bobl i stiwardio yn ystod y Gorymdaith Gŵyl Gyhoeddi rhwng 10:00yb a 3:00yp. Allwch chi helpu? Cliciwch y botwm isod a chwblhewch y ffurflen a’i ddychwelyd at:
Stiwardio, Adran yr Eisteddfod, Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd. LL23 7ST
E-bost:Ruth@urdd.org Ffôn: 01678 541 012 www.urdd.cymru/eisteddfod