Cofio Colin

Heddiw, dathlwyd bywyd Richard Colin Lewis a hunodd yn dawel ar ddydd Iau, Gorffennaf y 27ain, 2017 yn 75 mlwydd oed. Roedd Colin yn allweddol iawn i dyfiant a chyfleoedd yr Iaith Gymraeg ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd gan Colin yr angerdd i ddysgu iaith y nefoedd ei hun ac wedi rhoi’r cyfle gorau i’w blant i fedru siarad yr iaith.

Roedd Colin yn aelod o Blaid Cymru, wedi bod yn allweddol i agoriad Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr, ac wedi parhau fel llywodraethwr yr ysgol ers 1992.

Roedd yn allweddol i ddatblygiad RhAG o fewn ein Bwrdeistref a Colin oedd un o drigolion ein Sir a sefydlodd Menter Iaith Bro Ogwr.

Sefydlwyd Menter Bro Ogwr yn 1993 o ganlyniad i bobl gref fel Colin. Parhaodd Colin i gefnogi’r Fenter wrth i’r mudiad ddatblygu a thyfu i beth ydyn ni heddiw gan gytuno i fod yn ymddiriedolwr i Bwyllgor Rheoli’r Fenter.

Colin – rydych chi wir wedi bod yn arwr i’r Iaith ac os ydyn ni fel staff yn gallu dangos yr un cryfder, ymrwymiad, hyder a dyfalbarhad yna bydd yr Iaith yn parhau i ffynnu.

Diolch yn fawr iawn i chi am bopeth.

Nos da, cysga’n dawel mewn hedd, “Hedd, Perffaith Hedd”

Amanda Jaine Evans – Prif Swyddog Iaith Menter Bro Ogwr