Archif Tag: Pen-y-bont ar Ogwr

Prosiect Enwau Lleoedd Penybont-ar-Ogwr

Mae enwau lleoedd yn rhan o’n bywydau pob dydd ac rydym mor gyfarwydd â’u gweld ar arwyddion wrth deithio o un lle i’r llall, o’u clywed mewn sgyrsiau pob dydd neu ar y newyddion, maent bron wedi mynd yn anweladwy wrth droi’n eiriau heb fawr o gyd-destun.

 

Ond mae tarddiad yr holl enwau yn cynnwys elfennau ieithyddol, hanesyddol, daearyddol, diwylliannol a threftadaeth yr ardal. Gall hyn fod o ddiddordeb mawr i bobl sy’n ymweld â’r ardal, o dramor er enghraifft wrth iddynt archwilio hanes teulu, neu fe all drafodaeth enwau lleoedd i ddisgyblion ysgol dod ag elfen fwy personol a gwahanol i wersi hanes a daearyddiaeth.

 

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn dod i’r ardal ym mis Mai eleni, mae’n gyfle gwych i gynnal y fath prosiect ar y cyd â Cwmni2 a Reach er mwyn hybu cymaint o bethau yn yr ardal i ymwelwyr, cerddwyr, clybiau hanes a chlybiau camerâu ac yn enwedig ysgolion ac oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

 

Mae’n gyfle i hybu’r iaith yn yr ardal a hefyd, sydd efallai’n fwy pwysig, yn gyfle i atgoffa pawb am Gymreictod yr ardal. Yn ôl cyfrifiad 2011, 11% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg ond mae gan yr ardal y fraint hanesyddol o agor y drydedd ysgol cyfrwng Cymraeg erioed yng Nghymru (Tyderwen, yn Nantyffyllon ym 1948). Ac mae yna lu o bethau eraill hefyd i’w nodi yn y llyfryn a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod.

 

Fel rhan o’r prosiect, bydd gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd, ieuenctid ac oedolion. Rydym yn awyddus iawn i drigolion cael cyfle i gyfranogi yn y prosiect. Dewch i ddysgu mwy am y prosiect ar nos Fercher, 3ydd o Fai 2017 yng Nghlwb Criced Tondu am 7yh. Bydd David Thomas ac Amanda Jaine Evans yn rhoi sgwrs am y prosiect. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb felly dewch yn llu!

Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr

Yn ystod wythnos Sulgwyn, 29 Mai – 3 Mehefin bydd Sir Pen y Bont ar Ogwr yn croesawu Cymru gyfan, wrth i Eisteddfod yr Urdd agor ei drysau ar faes Coleg Pencoed I ryw 90,000 o ymwelwyr dros chwe diwrnod, ac rydym yn awyddus i roi’r croeso cynhesaf posib iddynt!

I’r perwyl hwn, rydym yn galw am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, sy’n angerddol am ein hardal i ymuno â Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, a derbyn hyfforddiant yn barod i gynnig croeso a gwasanaeth gwybodaeth leol i ymwelwyr yr Eisteddfod.

Grŵp o ryw ugain o wirfoddolwyr yw Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, sy’n rhannu cariad am yr ardal ac â diddordeb mewn parhau i ddysgu a rhannu gwybodaeth am ddiwylliant, bywyd gwyllt, hanes, celf, a bwyd y sir. Maent yn ymgysylltu ag ymwelwyr ein hardal mewn nifer o wahanol ffyrdd, megis cyfarfod a chyfarch mewn digwyddiadau, cefnogi grwpiau i lunio eu hymweliad, ysgrifennu blogiau, rhannu gwybodaeth leol gyda theuluoedd ac yn gyffredinol yn gwneud yr hyn a allant i godi proffil y rhanbarth. Mae bod yn Llysgennad yn lawer o hwyl ac yn werth chweil. Dyma beth sydd gan ein Llysgenhadon presennol i ddweud:

“Mond gair bach i ddweud pa mor werthfawr oedd y profiad o hyfforddi fel llysgennad. Nid yn unig ydym ni wedi dysgu cymaint am yr ardal, ond rydym hefyd wedi datblygu cymuned fach wirioneddol gref o bobl sydd â nod cyffredin, sef i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo ein darn arbennig ni o Gymru “

“Mae ymwneud a’r rhaglen Llysgenhadon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddysgu am ein treftadaeth, cerddoriaeth a llên gwerin leol, yn ogystal â mwynhau teithiau gwych i rai o’r atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw, ac ychydig o gyfrinachau’r ardal hefyd.”

Yn ogystal, mae’r manteision o fod yn llysgennad yn cynnwys:

  • Mynediad i gyfres o hyfforddiant a gwibdeithiau pleserus
  • hunan ddatblygiad
  • Rhwydweithio gyda phobl eraill o’r un anian, a busnesau twristiaeth yr ardal
  • Ymdeimlad o gyfrannu at y gymuned a’r rhanbarth yn gyffredinol, a’r boddhad a ddaw gyda hynny.
  • Mynediad am ddim i ddigwyddiadau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau
  • Tystysgrif a cherdyn adnabod sy’n eich cydnabod fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr.

Mae hyfforddiant yn rhad ac am ddim ac yn ymrwymiad amser o ddim ond dau ddiwrnod. Bydd y dyddiau yma ar sail gweithdy yn dysgu am drysorau’r rhanbarth. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am hanes, llên gwerin, treftadaeth, diwylliant a hyfrydwch naturiol sir Pen y Bont ar Ogwr.

Bydd angen i chi fynychu dau o’r sesiynau hyfforddiant, sydd wedi eu nodi uchod, a bod ar gael i wirfoddoli am o leiaf un sesiwn hanner diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos y Sulgwyn. Fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr, cewch wedyn gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli wrth iddynt godi drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Llysgenhadon sy’n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn derbyn mynediad am ddim i’r maes yn ystod eu diwrnod gwirfoddoli, ac yn gallu mwynhau perfformiadau rhai o’r 15,000 o blant dan 25 a fydd yn cystadlu am y brig mewn cystadlaethau diwylliannol megis canu, dawnsio, llefaru a pherfformio. Bydd o leiaf dau Lysgennad yn gwirfoddoli ar bob un diwrnod o’r Eisteddfod.

Rydym yn edrych yn benodol am unigolion sy’n gallu sgwrsio yn y Gymraeg, a bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda deunyddiau cefnogi yn cael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Os oes gyda chi ddiddordeb neu unrhyw gwestiynnau, cysylltwch ag Angharad ar angharad@angharadwynne.com / 07786256722.