Gyda chefnogaeth rhai o brif gerddorion Cymru a’r diwydiant, bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o, a dathlu bron i 50 mlynedd o gerddoriaeth anhygoel.
Mae modd i bawb fod yn rhan o’r dathlu o siopau neu gaffis, i ysgolion a cholegau gefnogi drwy gynnal cystadlaethau, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl ifanc i wrando, mwynhau a chymryd rhan. Bydd pecynnau adnoddau arbennig ar gael i ysgolion a sefydliadau addysg i’w helpu gyda threfniadau.
Gall unrhyw un gefnogi’r ymgyrch #DyddMiwsigCymru drwy rannu eu hoff #Tiwn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.
Gwenno
Rwyf wedi ail-ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, a sylweddoli y cyfoeth ohoni sy’n bodoli. Mae hyn wedi cael dylanwad anferthol arna i ac wedi rhoi llwyth o hyder i fi fynegi fy hun yn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg, sef fy iaith gyntaf.
Mike Williams, Prif Olygydd NME
Roeddwn i’n caru bod yr iaith yn llai ffurfiol wrth ganu nag yn yr ysgol. Fel rhywun o deulu oedd yn siarad Saesneg, fe roddodd hynny fwy o hyder i mi wrth gyfleu fy hun yn Gymraeg.
Osian, Candelas
Ma’ mywyd i wedi bodoli o gwmpas cerddoriaeth Gymraeg erioed i fod yn onest. Mae o wedi ngalluogi fi i fod yn gerddor proffesiynol(ish) a dwi ddim yn gwbod os fysw ni wedi cael hanner y cyfleoedd yn canu mewn iaith arall!
Dyma 5 peth y gelli di wneud i ddathlu #DyddMiwsigCymru
- Rhannu dy hoff gân Gymraeg #Tiwn
- Mynd i wylio gig Cymraeg
- Prynu albwm neu gân Gymraeg
- Darllen copi o ‘Y Selar’ arlein
- Gwrando ar C2 ar BBC Radio Cymru neu Cymru FM
(http://cymraeg.llyw.cymru/More/projects/dydd-miwsig/?lang=cy)