Dydd Mercher, 2il o Orffennaf 2014, Trip Bowlio Deg!, Bae Caerdydd, 15:30 – 20:00yh
Dewch i ymarfer eich sgiliau bowlio gyda’ch ffrindiau! Blynyddoedd 7-9.
Mae Carnifal Porthcawl yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 19eg gyda’r thema ‘dathlu bywyd ac oesoedd Porthcawl ers 1914’. Rydym yn bwriadu trefnu fflôt a stondin yn y carnifal i ddangos y gefnogaeth a chyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Croeso cynnes i chi ymuno â ni er mwyn sicrhau ein presenoldeb yng Ngharnifal Porthcawl.
Am ragor o fanylion cysylltwch ag Amanda Evans, Prif Swyddog Iaith Menter Bro Ogwr
01656 732200 neu e-bostio: menter@broogwr.org
Mae ‘Dyfodol i’r Iaith’ wedi cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at waith y Mentrau Iaith ac yn galw am drefn ariannu deg i’r Mentrau.
Os allech lofnodi’r ddeiseb isod a rhannu’r manylion gyda’ch cyfeillion byddem yn ddiolchgar iawn.
“Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:
longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru; cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith; ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu – tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt; derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben; ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt; sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau; chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.”
https://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=984
Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.
Ffair Nadolig Ysgol Cwm Garw Dydd Mercher 27 Tachwedd 5-7yh
Ffair Nadolig Ysgol Cynwyd Sant Dydd Gwener 29 Tachwedd 2.30yp
Ffair Nadolig Ysgol Y Ferch o’r Sgêr Dydd Gwener 29 Tachwedd 3.30-6.00yh
Ffair Nadolig Ysgol Bro Ogwr Dydd Gwener 29 Tachwedd 4:30 – 6:30yh
Ffair Nadolig Ysgol Llangynwyd Dydd Iau 12 Ragfyr 2.30 – 5.30yh
Cyngerdd Nadolig YGG Llangynwyd – Eglwys Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Fawrth 10fed o Ragfyr 6 o’r gloch
Llongyfarchiadau mawr i griw Dug Caeredin cyntaf Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ar gyflawni eu halldaith Dug Caeredin, Lefel Efydd trwy Menter Bro Ogwr. Mae’r criw wedi bod ati’n gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i gyflawni’r hyfforddiant angenrheidiol cyn yr Alldaith, heb son am adolygu ar gyfer yr arholiadau TGAU ar yr un pryd!
Dros y penwythnos, mi wnaeth y criw gerdded o ardal Marcroes, Bro Morgannwg yr holl ffordd i Bari, gan aros dros nos ym maes gwersylla Happy Jakes yn Flemingston. Cawson nhw groeso mawr yn Happy Jakes, gyda’r perchenogion yn gefnogol ac wrth eu boddau bod y bobl ifanc yn aros yno fel rhan o’r Alldaith.
Hoffwn i ddiolch yn fawr i Rhys Pinner, sydd wedi gwirfoddoli ei amser i hyfforddi’r criw cyntaf, ac sy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r criw nesaf yn barod!
Mae’n deg i ddweud roedd pawb yn edrych ymlaen at noson dda o gwsg nos Sadwrn! Ond, hoffwn i ddweud, ar ran y Fenter, ein bod ni’n hynod falch ohonoch chi gyd: Tomos Hopkins, Ben Isaac, Sam Turton, Catrin Haf Jones, Catrin Masson, a Ffion Masson….da iawn chi!
Siân Stephens
Wyt ti dros 16 oed ac eisiau gweithio tra’n cael dy hyfforddi?
Does gen i ddim gradd. (cliciwch yma am fwy o fanylion)
Wyt ti eisiau cael dy hyfforddi yn y sgiliau digidol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus yn y byd busnes go iawn?
Wyt ti eisiau cael dy dalu i hyfforddi tra’n gweithio mewn swydd go iawn i gyflogwr go iawn?
Oes gen ti ddiddordeb mewn pethau Digidol neu Rhyngweithiol
Wyt ti wedi gwneud dy ffilmiau dy hun i’w rhoi ar dy sianel YouTube neu Vimeo?
Wyt ti wedi chwarae efo adeiladu gwefanau dy hun?
Oes gen ti dudalen Tumblr sy’n wych?
Ydi’r byd côdio yn dy hudo?
Wyt ti wedi adeiladu dy Ap dy hun neu wedi rhedeg dy dudalen cyfryngau cymdeithasol dy hun?
Wyt ti yn Gêmiwr sy’n hoffi adeiladu dy gêmau dy hun? (rhai syml neu gymhleth)
Wyt ti wrth dy fodd yn creu dy animeiddiadau digidiol dy hun?
Ti’n Gîc…ond ti’n cwl!
Mae rhestr isod o’r SWYDDI PRENTIS GWAG sydd ar gael i ti geisio amdanyn nhw.
Cube Interactive – Prentis Peiriannydd Meddalwedd x 2
Made TV – Prentis Cyfryngau Digidol x 4
REBL Studios Limited – Prentis Datblygydd Meddalwedd dan Hyfforddiant
Yogi Creative Ltd – Prentis Dylunio Creadigol
Bait Studio – Prentis Datblygwr Ap Iau
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau i bob swydd yw Hanner Dydd, Dydd Llun, 12fed o Awst 2013.