Archifau Categori: Newyddion

Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr

Yn ystod wythnos Sulgwyn, 29 Mai – 3 Mehefin bydd Sir Pen y Bont ar Ogwr yn croesawu Cymru gyfan, wrth i Eisteddfod yr Urdd agor ei drysau ar faes Coleg Pencoed I ryw 90,000 o ymwelwyr dros chwe diwrnod, ac rydym yn awyddus i roi’r croeso cynhesaf posib iddynt!

I’r perwyl hwn, rydym yn galw am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, sy’n angerddol am ein hardal i ymuno â Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, a derbyn hyfforddiant yn barod i gynnig croeso a gwasanaeth gwybodaeth leol i ymwelwyr yr Eisteddfod.

Grŵp o ryw ugain o wirfoddolwyr yw Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, sy’n rhannu cariad am yr ardal ac â diddordeb mewn parhau i ddysgu a rhannu gwybodaeth am ddiwylliant, bywyd gwyllt, hanes, celf, a bwyd y sir. Maent yn ymgysylltu ag ymwelwyr ein hardal mewn nifer o wahanol ffyrdd, megis cyfarfod a chyfarch mewn digwyddiadau, cefnogi grwpiau i lunio eu hymweliad, ysgrifennu blogiau, rhannu gwybodaeth leol gyda theuluoedd ac yn gyffredinol yn gwneud yr hyn a allant i godi proffil y rhanbarth. Mae bod yn Llysgennad yn lawer o hwyl ac yn werth chweil. Dyma beth sydd gan ein Llysgenhadon presennol i ddweud:

“Mond gair bach i ddweud pa mor werthfawr oedd y profiad o hyfforddi fel llysgennad. Nid yn unig ydym ni wedi dysgu cymaint am yr ardal, ond rydym hefyd wedi datblygu cymuned fach wirioneddol gref o bobl sydd â nod cyffredin, sef i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo ein darn arbennig ni o Gymru “

“Mae ymwneud a’r rhaglen Llysgenhadon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddysgu am ein treftadaeth, cerddoriaeth a llên gwerin leol, yn ogystal â mwynhau teithiau gwych i rai o’r atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw, ac ychydig o gyfrinachau’r ardal hefyd.”

Yn ogystal, mae’r manteision o fod yn llysgennad yn cynnwys:

  • Mynediad i gyfres o hyfforddiant a gwibdeithiau pleserus
  • hunan ddatblygiad
  • Rhwydweithio gyda phobl eraill o’r un anian, a busnesau twristiaeth yr ardal
  • Ymdeimlad o gyfrannu at y gymuned a’r rhanbarth yn gyffredinol, a’r boddhad a ddaw gyda hynny.
  • Mynediad am ddim i ddigwyddiadau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau
  • Tystysgrif a cherdyn adnabod sy’n eich cydnabod fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr.

Mae hyfforddiant yn rhad ac am ddim ac yn ymrwymiad amser o ddim ond dau ddiwrnod. Bydd y dyddiau yma ar sail gweithdy yn dysgu am drysorau’r rhanbarth. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am hanes, llên gwerin, treftadaeth, diwylliant a hyfrydwch naturiol sir Pen y Bont ar Ogwr.

Bydd angen i chi fynychu dau o’r sesiynau hyfforddiant, sydd wedi eu nodi uchod, a bod ar gael i wirfoddoli am o leiaf un sesiwn hanner diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos y Sulgwyn. Fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr, cewch wedyn gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli wrth iddynt godi drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Llysgenhadon sy’n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn derbyn mynediad am ddim i’r maes yn ystod eu diwrnod gwirfoddoli, ac yn gallu mwynhau perfformiadau rhai o’r 15,000 o blant dan 25 a fydd yn cystadlu am y brig mewn cystadlaethau diwylliannol megis canu, dawnsio, llefaru a pherfformio. Bydd o leiaf dau Lysgennad yn gwirfoddoli ar bob un diwrnod o’r Eisteddfod.

Rydym yn edrych yn benodol am unigolion sy’n gallu sgwrsio yn y Gymraeg, a bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda deunyddiau cefnogi yn cael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Os oes gyda chi ddiddordeb neu unrhyw gwestiynnau, cysylltwch ag Angharad ar angharad@angharadwynne.com / 07786256722.

Helfa Pasg i’r Teulu

Cofiwch am ein Helfa Pasg i’r Teulu dydd Sul yma! Cawson ni amser gwych y llynedd. Dewch i ymuno yn yr hwyl eleni. Bwciwch eich lle nawr er mwyn osgoi cael eich siomi.

Dewch am hwyl a sbri ar Helfa Wyau Pasg ym Mharc Bryngarw. Edrychwch am y cliwiau i ddarganfod y gair a chasglu gwobr! Celf a chrefft yn ganolfan ymwelydd. Cwrdd â Kath yn y ganolfan am 10:00yb Cysylltwch â swyddfa Menter Bro Ogwr i fwcio lle. £1 y plentyn

Dydd Sul 23 o Ebrill 2017/ Sunday the 23 of April 2017                                                                                                                                                        Parc Bryngarw / Bryngarw Park , Brynmenyn, CF32 8UU                

10:00—12:00

LLYSGENNAD PEN-Y-BONT AR OGWR

Image result for llysgennad pen y bont ar ogwr

Yn ystod wythnos Sulgwyn, 29 Ebrill – 3 Mehefin bydd Sir Pen y Bont ar Ogwr yn croesawu Cymru gyfan, wrth i Eisteddfod yr Urdd agor ei drysau ar faes Coleg Pencoed I ryw 90,000 o ymwelwyr dros chwe diwrnod, ac rydym yn awyddus i roi’r croeso cynhesaf posib iddynt!

I’r perwyl hwn, rydym yn galw am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, sy’n angerddol am ein hardal i ymuno â Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, a derbyn hyfforddiant yn barod i gynnig croeso a gwasanaeth gwybodaeth leol i ymwelwyr yr Eisteddfod.

Grŵp o ryw ugain o wirfoddolwyr yw Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, sy’n rhannu cariad am yr ardal ac â diddordeb mewn parhau i ddysgu a rhannu gwybodaeth am ddiwylliant, bywyd gwyllt, hanes, celf, a bwyd y sir. Maent yn ymgysylltu ag ymwelwyr ein hardal mewn nifer o wahanol ffyrdd, megis cyfarfod a chyfarch mewn digwyddiadau, cefnogi grwpiau i lunio eu hymweliad, ysgrifennu blogiau, rhannu gwybodaeth leol gyda theuluoedd ac yn gyffredinol yn gwneud yr hyn a allant i godi proffil y rhanbarth. Mae bod yn Llysgennad yn lawer o hwyl ac yn werth chweil. Dyma beth sydd gan ein Llysgenhadon presennol i ddweud:

“Mond gair bach i ddweud pa mor werthfawr oedd y profiad o hyfforddi fel llysgennad. Nid yn unig ydym ni wedi dysgu cymaint am yr ardal, ond rydym hefyd wedi datblygu cymuned fach wirioneddol gref o bobl sydd â nod cyffredin, sef i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo ein darn arbennig ni o Gymru “

“Mae ymwneud a’r rhaglen Llysgenhadon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddysgu am ein treftadaeth, cerddoriaeth a llên gwerin leol, yn ogystal â mwynhau teithiau gwych i rai o’r atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw, ac ychydig o gyfrinachau’r ardal hefyd.”

Yn ogystal, mae’r manteision o fod yn llysgennad yn cynnwys:

  • Mynediad i gyfres o hyfforddiant a gwibdeithiau pleserus
  • hunan ddatblygiad
  • Rhwydweithio gyda phobl eraill o’r un anian, a busnesau twristiaeth yr ardal
  • Ymdeimlad o gyfrannu at y gymuned a’r rhanbarth yn gyffredinol, a’r boddhad a ddaw gyda hynny.
  • Mynediad am ddim i ddigwyddiadau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau
  • Tystysgrif a cherdyn adnabod sy’n eich cydnabod fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr.

Mae hyfforddiant yn rhad ac am ddim ac yn ymrwymiad amser o ddim ond dau ddiwrnod. Bydd y dyddiau yma ar sail gweithdy yn dysgu am drysorau’r rhanbarth. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am hanes, llên gwerin, treftadaeth, diwylliant a hyfrydwch naturiol sir Pen y Bont ar Ogwr.

Bydd angen i chi fynychu dau o’r sesiynau hyfforddiant, sydd wedi eu nodi uchod, a bod ar gael i wirfoddoli am o leiaf un sesiwn hanner diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos y Sulgwyn. Fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr, cewch wedyn gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli wrth iddynt godi drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Llysgenhadon sy’n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn derbyn mynediad am ddim i’r maes yn ystod eu diwrnod gwirfoddoli, ac yn gallu mwynhau perfformiadau rhai o’r 15,000 o blant dan 25 a fydd yn cystadlu am y brig mewn cystadlaethau diwylliannol megis canu, dawnsio, llefaru a pherfformio. Bydd o leiaf dau Lysgennad yn gwirfoddoli ar bob un diwrnod o’r Eisteddfod.

Rydym yn edrych yn benodol am unigolion sy’n gallu sgwrsio yn y Gymraeg, a bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda deunyddiau cefnogi yn cael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gobeithio y gallwch ymuno a ni.

Cliciwch yma am ragor o fanylion

HYSBYSEB SWYDD CYMRAEG

Cynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid (Siaradwr Cymraeg) – Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid

37 awr yr wythnos

Dros dro am hyd at 12 mis

A ydych am fod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau cwsmeriaid gan gydbwyso anghenion y Cyngor, ei randdeiliaid a dinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr?

Byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau yn bersonol, drwy e-bost neu dros y ffôn, a lle bynnag y bo’n bosibl byddwch yn datrys yr ymholiad ar y pwynt cyswllt cyntaf yn Gymraeg ac yn Saesneg. Lle nad yw hyn yn bosibl byddwch yn gwneud trefniadau i gwsmeriaid gael eu gweld gan Swyddogion drwy apwyntiad.

Mae hon yn rôl amrywiol a heriol lle byddwch yn eiriolwr dros y cwsmer gan gyrraedd y safonau a addawyd yn ein Siarter Cwsmeriaid.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych, amynedd a dycnwch ac yn barod i weithio ar rota gan gwmpasu’r oriau 8am tan 5.30pm.

Am ragor o fanylion neu i ymgeisio cliciwch yma

 

 

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017

cslwhouwgaebc96

Dydd Sadwrn 8 Hydref 2016 yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr

Cynhelir gorymdaith Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017 ddydd Sadwrn 8 Hydref 2016 yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr gydag adloniant i ddilyn ar gaeau Pontnewydd. Diwrnod hwyliog i’r teulu cyfan ac yn gyfle i holl gyfeillion yr Urdd ddod ynghyd i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.   

Eisiau Helpu?

Mae Eisteddfod yr Urdd yn edrych am bobl i stiwardio yn ystod y Gorymdaith Gŵyl Gyhoeddi rhwng 10:00yb a 3:00yp. Allwch chi helpu? Cliciwch y botwm isod a chwblhewch y ffurflen a’i ddychwelyd at:

 Ffurflen Stiwardio

Stiwardio, Adran yr Eisteddfod, Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd. LL23 7ST

E-bost:Ruth@urdd.org Ffôn: 01678 541 012 www.urdd.cymru/eisteddfod  

Dathlu Dydd Roald Dahl yn Siop yr Hen Bont

roald-dahl-day

Bydd Menter Bro Ogwr a Siop yr Hen Bont yn dathlu bywyd a gwaith Roald Dahl ar y 17eg o Fedi 2016 gyda Sesiwn Hwyl i Blant!

Cyfle i ddarllen storïau Roald Dahl yn Gymraeg a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft gan greu barf Mr Twit, losin mawr yn Ffatri Siocled Willy Wonka a lluniau ar gyfer cystadleuaeth Roald Dahl. Bydd angen bwcio o flaen llaw.

£5 y plentyn.

Dydd Sadwrn 17eg o Fedi 2016

Siop yr Hen bont, 11:00-12:00

Am ragor o fanylion cysylltwch â ni!

Menter Bro Ogwr | 01656 669 397| menter@broogwr.org

 

 

 

 

DYDD GŴYL DEWI HAPUS!

IMG_8796

Sut mae dathlu?  

Rhannwch eich lluniau gyda ni i ddangos pam ‘dych chi’n falch o fod yn Gymro!

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ‘dyn ni wedi trefnu her i chi!!

Yr her yw, i rannu llun neu fideo o rywbeth sy’n eich gwneud chi’n falch i fod yn Gymro, er mwyn dangos eich balchder yn ein hiaith, traddodiadau a bwydydd rhyfeddol a harddwch ein gwlad.

Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o ddiwrnod pwysig iawn i ni yng Nghymru sef Dydd Gŵyl Dewi.

Gall eich llun neu fideo gynnwys eich hoff le i fynd yng Nghymru, eich hoff fwyd Cymreig, neu hyd yn oed hunlun ohonoch chi’n gwisgo cennin Pedr neu genhinen.

Rhannwch eich lluniau ar ein tudalen Facebook a Twitter a dangoswch pam eich bod chi’n falch o fod yn Gymro, ar ddydd Gŵyl Dewi.

Galwch draw i’n gweld ni yng Ngholeg Pencoed a Phenybont!  

Bydd stondin gyda ni a’r Urdd yng Ngholeg Pencoed dydd Llun 29ain o Chwefror a stondin yng Ngholeg Penybont ar y 1af a’r 2il o Fawrth. Dewch draw i’n gweld ni!

Mae Menter Bro Ogwr yn gobeithio gweithio gyda chi’r myfyrwyr i sefydlu gweithgor neu gymdeithas. Pwrpas y gweithgor neu’r gymdeithas fydd trefnu gweithgareddau a digwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill a defnyddio eich Cymraeg yn y coleg. Bydd cyfle i lenwi ein holiadur a chyfle ennill gwobr pob dydd am wneud!

Dewch i weld Menter Bro Ogwr a Sam Tân yn Sainsbury’s a chystadlu yn y cystadleuaeth lliwio!

Mae Sainsbury’s yn rhedeg cystadleuaeth arbennig unwaith eto eleni – cystadleuaeth lliwio Dydd Gŵyl Dewi! Mae modd i chi gasglu’r tudalennau lliwio o Sainsbury’s, swyddogion y Fenter a Siop Yr Hen Bont. Bydd Sainsbury’s yn cynnig gwobr i’r enillydd.