Archifau Categori: Newyddion

PATAGONIA 150: Te Cymreig

Te cymreig 2015

Dyddiad: 19.09.15

Lleoliad: The Pop Up Tea Room, Neuadd Blandy, Trelales

Amser: 3:00yp

Cost: £16

Dewch am de Cymreig traddodiadol yng nghwmni Elvira Moseley i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Ganwyd a magwyd Elvira ym Mhatagonia ond mae hi bellach yn byw ym Maglan. Roedd ei pherthnasau ymysg y cyntaf i hwylio i Batagonia ar y Mimosa. Dewch i glywed am ei hanes a’i phrofiadau tra’n llenwi eich boliau â theisenni blasus!

Rhaid bwcio erbyn dim hwyrach na:
04.09.15

Archebwch le nawr!
Ewch i Siop yr Hen Bont neu ffoniwch 01656 732200!

Cynllun Chwarae Cymraeg am ddim!

poster cynlluniau chwarae 2015 (cymraeg)

Haf 2015

27 Gorffennaf – 21 Awst

10:00yb – 2:00yp

Ar agor i blant oed 8 – 13 sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg cyfnod allweddol 2 a 3.

Mynediad am ddim.

Mae croeso i blant y 4 Ysgol Gymraeg fynychu’r cynllun ym mhob un o’r lleoliadau.

Mae’r staff i gyd wedi eu profi gan y Biwro Cofnodion Troseddau ac yn brofiadol ym maes gwaith plant ac ieuenctid.

27.07.15– 31.07.15: Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr, Princess Way, Bracla,CF31 2LN

03.08.15 – 07.08.15: Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw Hill View, Pontycymer, Pen-y-Bont CF32 8LU

10.08.15 – 14.08.15: Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Llangynwyd, Maesteg, CF34 9RW

17.08.15 – 21.08.15: Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr Greenfield Terrace, Gogledd Corneli, Pen-y-bont CF33 4LW

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Menter Bro Ogwr

Tŷ’r Ysgol

Pen yr Ysgol

Maesteg

CF34 9YE

01656 732200

07870 372669

kathryn@menterbroogwr.org

Siop Siarad yn Trafod Ymgyrch #joia

Cawson ni hwyl fawr yn trafod ymgyrch ddigidol ddiweddaraf Mentrau Iaith Cymru yn y Siop Siarad ar y 10fed o Orffennaf. Yn syml,  ymgyrch i annog mwy o bobl, hen ac ifanc i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd yw #joia.

Joia1

Trafododd y grŵp am beth roedden nhw’n joio gwneud yn Gymraeg. Gofynnon ni hefyd iddyn nhw ddisgrifio’r Siop Siarad mewn un gair Cymraeg. Dyma luniau o’r sesiwn ac ein cyfraniad ni tuag at yr ymgyrch!

Joia2

Mae’r Siop Siarad yn cael ei gynnal yn Siop yr Hen Bont, Pen-y-bont bob dydd Iau. Mae’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ymarfer sgwrsio a holi cwestiynau tu fas i’r dosbarth.

Joia3

Grŵp 1: 12:45pm – 1:30pm. Ymarfer patrymau iaith lefelau Mynediad a Sylfaen

Grŵp 2: 1:30pm – 2:15pm. Dechrau sgwrsio yn Gymraeg

Grŵp 3: 2:15pm – 3:00pm. I bobl sy’n gallu cynnal sgwrs yn Gymraeg

Joia4

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marged.

marged@menterbroogwr.org

01656 732200

Diweddu Gŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr gan ffarwelio â’n Swyddog Ieuenctid – Yasmin Morris

IMG_6397

Mae wythnos Gŵyl Gymraeg y Fenter wedi dod i ben gyda phawb wedi joio sawl un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi ni; plant, pobl ifanc ac oedolion.

Ni fyddai’r digwyddiadau yma’n bosib heb waith trefnu, paratoi ac ymroddiad tîm cyfan y Fenter a chefnogaeth gwirfoddolwyr a rhoddodd eu hamser i sicrhau bod y digwyddiadau’n mynd bant gyda bang!

Rydym hefyd yn gorffen ein hwythnos gan ffarwelio â’n Swyddog Ieuenctid Yasmin Morris. Bydd Yasmin yn dechrau yn ei swydd newydd gyda Menter Abertawe wythnos nesaf. Yn yr amser byr y mae Yasmin wedi bod gyda Menter Bro Ogwr, mae wedi gadael ei marc ar y sefydliad a byddwn ni’n ei gweld eisiau. Dymunwn bob lwc iddi yn ei swydd newydd. Pob lwc a diolch yn fawr iawn.

Cyri, Cwis a Chwrw!

Image-1

Cawson ni noson llawn hwyl a chyri blasus yn y Six Bells yng Nghoety ar y 3ydd o Orffennaf fel rhan o ŵyl Gymraeg Menter Bro Ogwr! Diolch yn fawr i bawb am ddod ac i Alun Guile ein Cwis Feistr am baratoi a rhedeg y cwis i ni. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm buddugol, y Twpsod Twp, am chwipio’r wobr!