Archifau Categori: Newyddion

Clwb Bili Broga

12640418_961022150638360_823491711229986866_o

Clwb newydd a chyffrous ar gyfer rhieni â phlant bach! Dewch am Hwyl a Sbri ar daith o gwmpas Parc Gwledig Bryngarw gyda’ch plant. Bydd cyfle i gerdded o gwmpas y parc, ac mae pob croeso i chi ddod â’r bygi. Byddwn ni’n gorffen y daith gyda gweithgaredd yn y ganolfan a chyfle i ganu a dawnsio i ganeuon Cymraeg. Bydd y clwb yma’n cael ei gynnal yn fisol a bydd angen i bawb cwrdd ar bwys y caffi. Croeso cynnes i bawb!

Dechrau 26.02.16 am 1pm.

Am ragor o fanylion ffoniwch Menter Bro Ogwr ar 01656 732200

Hwyl y Gwyliau Chwefror 2016

Cynllun Chwarae Maesteg 3

Bydd Hwyl y Gwyliau Cymraeg yn ystod Hanner Tymor Chwefror yn cael eu rhedeg gan Menter Bro Ogwr. Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio staff cymwysedig, profiadol a brwdfrydig a fydd yn trefnu rhaglen o weithgareddau cyffrous i fechgyn a merched 8 – 14 blwydd oed.

Bydd ein rhaglenni’n cynnwys gweithgareddau chwaraeon , megis pêl-droed, phêl-rwyd, pêl osgoi, rybgi cyffwrdd, a llawer mwy. Hefyd, mae gennym amrywiaeth o weithgareddau gwahanol ar gael ym maes celf a chrefft, gêmau, Nintendo Wii, a llawer mwy!

Bydd Hwyl y Gwyliau yn rhedeg o 10.00yb tan 3.00yp ar y 15fed/16eg/17eg o Chwefror 2016.

Archebwch le nawr!

Cysylltwch â Menter Bro Ogwr ar 01656 732200.

#DyddMiwsigCymru – Dathlu Cerddoriaeth Cymraeg

Plu

Eleni, am y tro cyntaf 12 Chwefror, 2016 yw Dydd Miwsig Cymru – diwrnod i gyd-ddathlu cerddoriaeth Cymraeg yn arwain i fyny at wobrau’r Selar ar 20 Chwefror, 2016.

Gyda chefnogaeth rhai o brif gerddorion Cymru a’r diwydiant, bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o, a dathlu bron i 50 mlynedd o gerddoriaeth anhygoel.

Mae modd i bawb fod yn rhan o’r dathlu o  siopau neu gaffis, i ysgolion a cholegau gefnogi drwy gynnal cystadlaethau, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl ifanc i wrando, mwynhau a chymryd rhan. Bydd pecynnau adnoddau arbennig ar gael i ysgolion a sefydliadau addysg i’w helpu gyda threfniadau.

Gall unrhyw un gefnogi’r ymgyrch #DyddMiwsigCymru drwy rannu eu hoff #Tiwn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Gwenno

Rwyf wedi ail-ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, a sylweddoli y cyfoeth ohoni sy’n bodoli. Mae hyn wedi cael dylanwad anferthol arna i ac wedi rhoi llwyth o hyder i fi fynegi fy hun yn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg, sef fy iaith gyntaf.

Mike Williams, Prif Olygydd NME

Roeddwn i’n caru bod yr iaith yn llai ffurfiol wrth ganu nag yn yr ysgol. Fel rhywun o deulu oedd yn siarad Saesneg, fe roddodd hynny fwy o hyder i mi wrth gyfleu fy hun yn Gymraeg.

Osian, Candelas

Ma’ mywyd i wedi bodoli o gwmpas cerddoriaeth Gymraeg erioed i fod yn onest. Mae o wedi ngalluogi fi i fod yn gerddor proffesiynol(ish) a dwi ddim yn gwbod os fysw ni wedi cael hanner y cyfleoedd yn canu mewn iaith arall!

Dyma 5 peth y gelli di wneud i ddathlu #DyddMiwsigCymru

(http://cymraeg.llyw.cymru/More/projects/dydd-miwsig/?lang=cy)

Diwrnod Santes Dwynwen 2016

 

12417629_960527034021205_4795731476236930808_n

Wnaethoch chi ddathlu diwrnod Santes Dwynwen eleni? Fe wnaethon ni ddathlu yma ym Menter Bro Ogwr yn ein Siop Siarad, Clwb Ieuenctid ac mewn digwyddiad arbennig ym Mharc Bryngarw.

Cawson ni hwyl yn y Siop Siarad yn gwneud gweithgaredd ‘Colofn Cariad’ lle’r oedd rhaid dyfalu’r person enwog o’r disgrifiadau bach a chawson ni drafodaeth am Gariad yn gyffredinol. Roedd cystadleuaeth Siôn a Siân yn y clwb ieuenctid dydd Llun. Cyfle i’r ieuenctid ddangos faint maen nhw’n nabod ei ffrindiau a chael bach o sbort.

Ar ddydd Sadwrn, 23ain o Ionawr, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad ar y cyd â Mudiad Meithrin, Tyfu a Pharc Bryngarw gan gynnig gweithgareddau celf a chrefft, stondinau gwybodaeth a stondin Siop yr Hen Bont yn y ganolfan ymwelwyr. Roedd y digwyddiad ar gyfer teuluoedd yn llwyddiannus gyda nifer o bobl yn rhoi tro ar greu llwy garu allan o glai a mwy!

Diolch i bawb daeth i’r digwyddiadau a gobeithio cawsoch chi gyd ddiwrnod Santes Dwynwen hyfryd!

12438990_960437950696780_8097149021163000238_n (1)

 

Mari Lwyd Llangynwyd

mari lwyd

Dathlodd y Fenter yr Hen Galan ar y 13eg o Ionawr yn y Tŷ Cornel yn Llangynwyd. Daeth Gwyn Evans â’r Mari Lwyd i’r noson gymdeithasol a chawson ni hwyl yn canu caneuon Cymraeg dan arweiniad a chyfeiliant Rhiannon Dixon. Diolch yn fawr i bawb am ddod a diolch yn fawr i Gwyn Evans a Rhiannon Dixon am yr adloniant!

Cyfarfod Blynyddol a Swper Nadolig Menter Bro Ogwr

Cyfarfod Blynyddol a Swper Nadolig 2015

Dewch i ddathlu’r Nadolig mewn steil gyda phryd o fwyd 3 chwrs yn y Farmers yn Notais! Cyfle gwych i gwrdd a chymdeithasu â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eraill o’r sir.

£18.95 am bryd o fwyd 3 chwrs.

Bydd y swper yn cychwyn am 7:45pm yn syth ar ôl ein cyfarfod blynyddol.

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly’r cyntaf i’r felin caiff falu! Ni fyddwn yn derbyn unrhyw fwciadau ar ôl y  25ain o Dachwedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bwcio cyn y dyddiad yma er mwyn osgoi cael eich siomi.

Bydd cyfarfod blynyddol Menter Bro Ogwr yn cael ei gynnal cyn y swper am 7:00pm. Mae croeso i bawb ddod i glywed am waith y Fenter dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg? Hoffech chi chwarae rhan yn natblygiadau’r Gymraeg yn sir Pen-y-bont ar Ogwr? ‘Dyn ni eich angen chi! Mae Menter Bro Ogwr yn edrych am aelodau newydd ar gyfer ein pwyllgor rheoli ac mae’r cyfarfod yma’n gyfle i chi gael eich ethol. Ymunwch â ni er mwyn gweld y Gymraeg yn ffynnu ym Mro Ogwr!

Croeso i bawb!

Gŵyl Cerdd Dant yn dod i Borthcawl

Gŵyl Cerdd Dant 2015

Mae Gŵyl Undydd Fwyaf Ewrop yn dod i Borthcawl!

Gŵyl Cerdd Dant yw gŵyl gystadleuol undydd fwyaf Ewrop ac mae’n rhoi llwyfan i hoff draddodiadau gwerinol Cymru bob blwyddyn.

Nid yn unig y cawn fwynhau unawdau, deuawdau a chorau cerdd dant, ond bydd cyfle hefyd i glywed unawdau a phartïon llefaru; rhywfaint o ganu gwerin; unawdau a deuawdau ar y delyn, a digon o dwrw wrth i’r dawnswyr gwerin a’r clocswyr
lenwi’r lle. Ymunwch yn yr hwyl a dewch i Bafiliwn y Grand ar
Ddydd Sadwrn 14eg o Dachwedd 2015!

Gŵyl Cerdd Dant 2015 2

Diwrnod Shwmae Su’mae 2015

IMG_7571

Ar ddydd Iau, Hydref 15fed cynhaliwyd y trydydd Diwrnod Shwmae Sumae, ac unwaith eto buodd Menter Bro Ogwr a nifer o bobl eraill ar draws y wlad yn brysur yn annog pobl i gyfarch pawb gyda “Shwmae” neu “Su’mae”.

Eleni, aeth Menter Bro Ogwr â Sali Mali i Borthcawl, Sainsbury’s Sarn a Phen-y-bont i gyfarch pobl a lledaenu’r neges am y diwrnod. Cwrddodd Sali Mali â nifer o bobl hyfryd ar ei theithiau ac fe dynnwyd nifer o luniau neis gyda nhw. Mae’r lluniau yma nawr i’w gweld ar dudalen Facebook Menter Bro Ogwr (@menterbroogwr) a rhai ar ein gwefan ac ar Twitter hefyd. Gofynnon ni hefyd i chi bostio eich lluniau ohonoch chi’n dathlu diwrnod Shwmae ar ein tudalen Facebook a Twitter am gyfle i ennill taleb ar gyfer Siop yr Hen Bont. Bydd y llun buddugol yn cael ei ddewis wythnos nesaf.

Hoffai Menter Bro Ogwr ddiolch yn fawr iawn i Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl am y croeso ac yr ystafell wisgo bersonol i Sali Mali ac i Sainsbury’s Sarn hefyd am y croeso. Diolch hefyd i Sgwadron Abercynffig, Tyfu gyda’r Gymraeg – Pen-y-bont, Llyfrgell Pen-y-bont, Cafe Mimis, The Bridge, Coleg Pen-y-bont, YellowWales, BAVO, Cylch Meithrin Plant Bach Sarn, Prosiect Cymunedol Noddfa, Siop Siarad Pen-y-bont a phawb arall sydd wedi cyfrannu eu lluniau bendigedig!

Mae wedi bod yn hyfryd gweld pawb yn cofleidio’r diwrnod cenedlaethol yma. Mae Menter Bro Ogwr yn methu aros tan ddiwrnod Shwmae Su’mae blwyddyn nesaf!

Cliciwch ar y linc i weld criw y Siop Siarad yn dweud Shwmae!

IMG_7486

Taith Nadolig hudol Cyw ar draws y wlad 2015

Sioe Nadolig Cyw 2015

Dewch draw i Sioe Nadolig Cyw am hwyl a sbri gyda Dona Direidi, y môr leidr Ben Dant, Sbarc, cyflwynwyr Cyw Catrin a Huw, Sion Corn ac wrth gwrs Cyw!

Bydd cyfle i fwynhau’r sioeau gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn ogystal ac yn ystod y dydd i’r ysgolion meithrin a chynradd. Cofiwch archebu yn fuan gan fod tocynnau yn gwerthu yn gyflym.

Tocynnau ar gael o 10yb ar Ddydd Gwener, 4 Medi, 2015.

Dyma fanylion y perfformiadau, prisiau, a gwybodaeth am sut i brynu tocynnau:

Dydd Mercher 2 Rhagfyr, Ysgol Cwm Rhymni, Coed Duon
Sioeau am 11.15, 2.00

Dydd Iau 3 Rhagfyr, Ysgol Bro Edern, Caerdydd
Sioeau am 11.30, 2.15, 5.45*

Dydd Gwener 4 Rhagfyr, Ysgol Bro Edern, Caerdydd
Sioeau am 11.30, 2.15

Dydd Llun 7 Rhagfyr, Neuadd Gwyn Hall, Castell-nedd
Sioeau am 11.30, 1.45, 5.45*

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr, Ysgol Queen Elisabeth, Caerfyrddin
Sioeau am 11.30, 1.45 a 5.45*

Dydd Mercher 9 Rhagfyr, Theatr y Gromlech, Crymych
Sioeau am 11.30, 1.45, 5.45*

Dydd Iau 10 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth
Sioeau am 11.30, 1.45, 5.45*

Dydd Mawrth 15 Rhagfyr, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
Sioeau am 11.30, 1.45, 5.45*

Dydd Mercher 16 Rhagfyr, Theatr John Ambrose, Rhuthun
Sioeau am 11.30, 1.45, 5.45*

Dydd Iau 17 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Rhiwabon
Sioeau am 10.45, 12.45, 2.15

Dydd Gwener 18 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
11.30, 2.00

Dydd Sadwrn 19 Rhagfyr, Galeri, Caernarfon
Sioeau am 1.45, 3.45, 6.00 *

Dydd Sul 20 Rhagfyr, Galeri, Caernarfon
Sioeau am 11.00, 1.45 a 3.45 *

Prisiau tocynnau:

Tocyn Plentyn – Ysgol – £5

Tocyn Plentyn Nos – Ysgol – £6

Tocyn Plentyn – Theatr – £7

Tocyn athro / cynorthwyydd gyda’r dydd (Ysgol yn unig) – Am ddim

Tocyn teulu dydd – ysgol  (2 oedolyn a 2 blentyn) – £21

Tocyn teulu nos – ysgol  (2 oedolyn a 2 blentyn)£23

Tocyn plentyn – Theatr- £7

Tocyn oedolyn – Theatr -£8

Tocyn teulu – Theatr – £28

Sut i brynu tocynnau:

I brynu tocynnau i unrhyw sioe dylid cysylltu â Galeri Caernarfon trwy ffonio 01286 685 222 neu gellir prynu tocynnau ar eu gwefan, www.galericaernarfon.com

Ar gyfer tocynnau Neuadd Gwyn Hall, Castell Nedd, rhaid cysylltu yn uniongyrchiol gyda’r swyddfa docynnau ar 0300 365 6677 neu www.gwynhall.com

Nodyn:

Mae ffi archebu o £1 ar bob archeb a wneir dros y ffôn a chodi’r tâl o 82c ar bob tocyn a brynir ar-lein.

Cyfweliadau ar gael ar gais gyda cymeriadau a cast.

Mae * yn dynodi sioe sydd yn cynnwys sesiwn cwrdd a chyfarch. Mae bob sioe yn Galeri, Caernarfon yn cynnwys sesiwn cwrdd a chyfarch.